Mae amddiffynnwr West Ham, Danny Gabbidon wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru misoedd yn unig ar ôl cyhoeddi ei fod yn ymddeol o gemau rhyngwladol.
Mae hyfforddwr newydd Cymru, Gary Speed wedi enwi Gabbidon yn ei garfan ar gyfer gêm Cwpan Geltaidd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar 8 Chwefror.
Mae Speed hefyd wedi cynnwys Aaron Ramsey yn y garfan. Bydd y chwaraewr canol cae yn gobeithio chwarae ei gêm gyntaf dros ei wlad ers ysbrydoli Cymru i fuddugoliaeth 3-0 yn erbyn yr Alban ym mis Tachwedd 2009.
“Rydw i wrth fy modd bod Aaron ar gael i chwarae. Mae’n edrych ymlaen at yr her,” meddai Speed.
“Mae Aaron yn un o’r chwaraewyr sy’n gallu newid gêm.”
Mae ymosodwr Coventry, Freddie Eastwood, hefyd wedi dychwelyd i’r garfan ryngwladol ar ôl cael ei anwybyddu gan John Toshack ers 2008.
Absenoldebau
Mae Gary Speed wedi gadael Gareth Bale a Craig Bellamy allan o’r garfan oherwydd amheuon ynglŷn â ffitrwydd y ddau.
Mae gan Bellamy broblemau gyda’i ben-glin sy’n cyfyngu ar nifer y gemau mae’n gallu eu chwarae.
Fe fydd cyn-gapten Cymru yn siŵr o chwarae dros Gaerdydd yn erbyn Abertawe yn y gêm ddarbi ddydd Sul yma. Mae’r gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon dau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Mae Gareth Bale heb gael ei ystyried ar gyfer y garfan oherwydd anaf i’w gefn.
Ni fydd Simon Davies yn dychwelyd i’r sgwad ryngwladol ar hyn bryd er gwaethaf ymdrechion gan Speed i’w ddenu yn ôl.
“Roedd Simon wedi ystyried dychwelyd ond mae am ganolbwyntio ar ei yrfa â Fulham. Mae Simon yn chwaraewr o safon ond rwy’n parchu ei benderfyniad,” meddai Speed.
Carfan Cymru
Golwyr- Jason Brown (Blackburn), Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (West Brom).
Amddiffynwyr- Danny Collins (Stoke), James Collins (Aston Villa), Neal Eardley (Blackpool), Danny Gabbidon (West Ham), Chris Gunter (Nottingham Forest), Craig Morgan (Preston), Sam Ricketts (Bolton), Ashley Williams (Abertawe).
Canol cae- Andrew Crofts (Norwich), David Edwards (Wolves), Andy King ( Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey ( Caerdydd), David Vaughan (Blackpool).
Ymosodwyr- Simon Church (Reading), Rob Earnshaw (Nottingham Forest), Ched Evans (Sheffield Utd), Freddie Eastwood (Coventry), Steve Morison (Millwall), Hal Robson-Kanu (Reading).