Fe lwyddodd dringwr yn yr Alban i fyw trwy gwymp o bron 1,000 o droedfeddi ar un o fynyddoedd y Munros.
Pan ddaeth achubwyr o hyd iddo o fewn hanner awr, roedd y dyn yn sefyll ar ei draed ac yn darllen map i geisio ffeindio’i ffordd.
Yn ôl yr achubwyr, a oedd yn digwydd bod ar ymarferiad gyda hofrennydd gerllaw, roedd ôl y cwymp yn amlwg, gyda darnau o offer y dyn i’w gweld ar hyd lethrau Sgurr Choinnich Mor gerllaw Ben Nevis.
“Roedd yn anhygoel,” meddai un o’r achubwyr. “Ar y dechrau, pan welson ni ddyn ar ei draed, doedden ni ddim yn gallu credu mai fe oedd e.”
Dim ond mân anafiadau oedd gan y dyn, ond roedd yn diodde’ o sioc.
Llun: Sgurr Choinnich Mor (afmillar CCA 2.0)