Gwyn Derfel Llun: Uwch Gynghrair Cymru
Mae Cymdeithas Bel Droed Cymru wedi penodi Gwyn Derfel yn ddarpar Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru. Bydd yn olynu John Deakin yn mis Chwefror 2012.
Mewn cyfweliad â Sgorio datgelodd ei amcanion i’r gynghrair yn y dyfodol.
“Dwi’n credu fod rhaid i’r Gymdeithas Bel Droed a’r clybiau a’r cefnogwyr gydweithio er mwyn symud y gynghrair ymlaen,” meddai wrth Sgorio.
Nododd mae ei weledigaeth oedd “i wella’r cynnyrch sydd gennym ni, sef Uwch Gynghrair Cymru,” trwy “wella adnoddau a gwella ansawdd y meysydd chwarae”.
Cydnabyddodd Gwyn Derfel yr angen i gynyddu nifer y bobl sydd yn mynychu gemau’r gynghrair.
“Mae angen i’r clybiau fod yn ganolbwynt cymunedol, a dwi’n credu fod pob dim yn tyfu o hwnnw.”
Trwy wneud hynny “mae’r chwaraewyr ifanc yn mynd i ddod trwyddo, mae’r cefnogwyr yn mynd i ddod trwy’r gât.”
“Dyna’r sylfaen a dyna’r cynllun sydd angen ei fabwysiadu er mwyn gweld datblygiad yn y cynghrair.”
Pêl droed merched
Datgelodd Derfel gynlluniau a fyddai’n cyflwyno ‘newidiadau sylfaenol’ ynghylch pêl droed merched, wrth Sgorio. Y tymor nesa, am y tro cyntaf, bydd uwch gynghrair cenedlaethol o 12 tîm i bêl-droed y merched.
Symud y tymor pêl droed i’r haf?
Wrth gael ei holi ynglŷn â unrhyw fwriad i symud y tymor pêl-droed i dymor yr haf, ymatebodd Gwyn Derfel trwy nodi fod hynny’n un opsiwn ond fod angen gwrando ar ofynion y cefnogwyr a swyddogion.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwella perfformiadau clybiau Cymru yng nghystadlaethau Ewrop achos dydyn nhw ddim wedi bod yn ddigon da dros y blynyddoedd.”
Ond nododd nad oedd yn fater oedd ar frig yr agenda ar hyn o bryd.