Deuddydd cyn herio Cymru yn Stadiwm y Mileniwm mae Awstralia wedi enwi eu carfan i wynebu Cymru.
Ymhlith y blaenwyr dim ond un newydd sydd i’r tîm a drechodd Cymru am y fedal efydd yng Nghwpan y Byd ym mis Hydref. Gweli’r Rob Simmons yn dechrau yn yr ail reng tra bod Nathan Sharpe yn symud i’r fainc.
Ond i safle’r maswr fydd sylw pawb yn troi Dydd Sadwrn, gan mae dyma’r gêm brawf gyntaf i James O’Connor chwarae yn g nghrys rhif 10. Mae’r gŵr 21 mlwydd oed o Melbourne wedi ennill ei 36 cap blaenorol ar yr asgell a safle’r cefnwr.
Ond disgleiriodd yn y crys rhif 10 yn erbyn y Barbariaid yr wythnos diwethaf gan lwyddo gyda 8 cic at y pyst.
O’r olwyr a oedd yn rhan o’r tîm a drechodd Cymru dros fis yn ôl, mae Berrick Barnes yn adennill ei le fel canolwr yn ogystal â’r asgellwr Digby Ionae a mewnwr Will Genia.
Fe fydd Adam Ashley Cooper yn symud i safle’r cefnwr yn absenoldeb Kurtley Beale, Rob Horne yn y canol a Lachie Turner yn cychwyn ar yr asgell.
Er i David Pocock arwain y tîm yn yr wythnos diwethaf fe fydd James Horwill yn gapten i’r Wallabies yn erbyn y Cymry wedi cychwyn ar y fainc yn erbyn y Barbariaid.
Fe fydd Pocock yn ffigwr allweddol i Awstralia wrth iddo fynd benben a chapten Cymru Sam Warburton a gollodd yr ornest ddiwethaf rhwng y ddwy wlad oherwydd gwaharddiad.
Mae tîm Robbie Deans yn llawn ymwybodol o bwysigrwydd y gêm yma i dîm Cymru yng nghyd-destun gem olaf Shane Williams dros ei wlad.
“Ry’n ni wedi profi ein hunain pa mor bwerus mae cymhelliant ychwanegol o chwarae dros ffrind yn medru gwneud, pan gafodd ‘Sharpie’ [Nathan Sharpe] ei ganfed cap yn Auckland” dywedodd hyfforddwr Awstralia Robbie Deans.
“Doedd y chwaraewyr arall ddim eisiau ei siomi. Does gen i ddim amheuaeth, fydd bechgyn Cymru yn teimlo’r un peth yr wythnos yma. Mae emosiwn yn chwarae rhan bwerus mewn chwaraeon cystadleuol. “
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi datgan bydd yna funud o dawelwch cyn y gêm er cof am Gary Speed.
Y tîm un llawn
Olwyr
15. Adam Ashley-Cooper
14. Lachie Turner
13. Rob Horne
12. Berrick Barnes
11. Digby Ioane
10. James O’Connor
9. Will Genia
Blaenwyr:
8. Ben McCalman
7. David Pocock
6. Scott Higginbotham
5. Rob Simmons
4. James Horwill, Capten
3. Salesi Ma’afu
2. Tatafu Polota Nau
1. James Slipper
Eilyddion:
16. Stephen Moore
17. Ben Alexander
18. Nathan Sharpe
19. Radike Samo
20. Ben Lucas
21. Ben Tapuai
22. Anthony Fainga’a