Abertawe 0–0 Aston Villa
Gêm ddiflas ddi sgôr a gafwyd rhwng Abertawe ac Aston Villa ar brynhawn trist yn Stadiwm Liberty heddiw. Talwyd teyrnged i’r diweddar Gary Speed ar ddechrau’r gêm ac roedd hi’n amlwg fod rhai o’r chwaraewyr a oedd yn ei adnabod yn dda yn emosiynol iawn yn ystod y gêm, yn enwedig felly gôl-geidwad Villa a chyn gyd-chwaraewr gyda Speed yn Newcastle, Shay Given.
Doedd dim llawer o gyfleoedd mewn hanner cyntaf diflas. Bu rhaid i Michel Vorm arbed ergyd gan Gabriel Agbonlahor wedi 18 munud ond ar wahân i hynny ychydig iawn ddigwyddodd. Roedd Abertawe yn chwarae eu gêm basio arferol ond heb greu llawer o gyfleoedd o flaen gôl.
Ail Hanner Gwell
Cafwyd ychydig mwy o gyffro yn yr ail hanner. Daeth Agbonlahor yn agos wedi 55 munud. Ergydiodd y blaenwr yn bwerus o gornel y cwrt cosbi a newidiodd cyfeiriad y bêl yn yr awyr gan achosi problem i Vorm ond llwyddodd y gôl-geidwad i ddyrnu’r bêl braidd yn ffodus fodfeddi’n unig dros y trawst.
Roedd Villa yn pwyso mwy a mwy wrth i’r hanner fynd rhagddo ac roedd Abertawe’n mwynhau dipyn o le wrth wrthymosod, yn enwedig felly Scott Sinclair ar yr asgell chwith.
Bu rhaid ymosodwr yr Elyrch, Danny Graham adael y cae gydag anaf yn fuan yn yr ail gyfnod gyda Leroy Lita yn dod i’r cae yn ei le a’r eilydd a gafodd ddau gyfle gorau’r tîm cartref yn chwarter olaf y gêm.
Dau Gyfle i’r Eilydd
Daeth y cyntaf o’r rheiny wedi 72 munud yn dilyn gwrthymosodiad da arall. Gwnaeth Mark Gower yn dda cyn dod o hyd i Lita ar ochr y cwrt cosbi gyda’i gefn at y gôl. Roedd ei gyffyrddiad cyntaf i droi a churo James Collins yn un gwych ond methodd a tharo’r targed gydag ergyd wael ar ôl gwneud y gwaith caled i gyd.
Creodd gyfle da arall iddo’i hun wedi 80 munud wrth i’w gyffyrddiad cyntaf fynd ag ef heibio i Richard Dunne yn y bocs y tro hwn cyn iddo ergydio’n syth at Given yn y gôl.
Cafodd Sinclair gyfle hefyd rhwng y ddwy ymdrech gan Lita ond gwnaeth Collins yn dda i atal ei ergyd. Yn y pen arall bu rhaid i Vorm arbed ergyd arall gan Agbonlahor ond roedd yn camsefyll pryn bynnag yn ôl y dyfarnwr cynorthwyol.
Gêm braidd yn ddi fflach felly ond mae’n debyg mai gêm gyfartal oedd y canlyniad teg. Mae’r pwynt yn codi Abertawe yn ôl uwch ben West Brom i’r trydydd safle ar ddeg yn yr Uwch Gynghrair.
Perfformiad braidd yn siomedig gan yr Elyrch heddiw efallai ond ar ddiwrnod trist i bêl droed Cymru dylid cofio mai dim ond gêm oedd hi.