Abertawe 0 – 0 Aston Villa

Cynhaliwyd munud o dawelwch cyn y gêm er cof am reolwr Cymru, Gary Speed a fu farw heddiw.

Fel sydd wedi dod yn arferol mewn achlysuron o’r math mewn gemau pêl-droed, fe ddechreuodd y cefnogwyr gymeradwyo’n fuan ar ôl dechrau’r munud o ddistawrwydd fel teyrnged i Speed.

Roedd yr awyrgylch yn isel i ddweud y lleiaf ar y Liberty, ac roedd dagrau gol geidwad Villa, Shay Given cyn y chwiban gyntaf yn crynhoi’r teimlad cyffredinol yn y byd pêl-droed heddiw.

Roedd Given yn ffrindiau mawr â Speed yng nghyfnod y ddau’n chwarae i glwb Newcastle.