Bydd Llanelli yn teithio i Stadiwm GenQuip i herio Port Talbot yng ngêm fyw Sgorio ddydd Sadwrn, a byddant yn cyrraedd yno’n hyderus yn dilyn tair buddugoliaeth o’r bron yn yr Uwch Gynghrair. Curodd y Cochion y Bala o 3-1 brynhawn Sul diwethaf yn dilyn buddugoliaethau eraill yn erbyn y Drenewydd a Chaerfyrddin yn yr wythnosau cyn hynny.

Ond mae anafiadau a gwaharddiadau yn achosi ychydig o gur pen i Andy Legg cyn y gêm brynhawn Sadwrn. Disgwylir i Craig Moses fod allan tan fis Chwefror ar ôl anafu ei linyn gar yn erbyn Bala ac mae Chris Venables yn methu’r gêm gan ei fod wedi derbyn pum cerdyn melyn y tymor hwn.

Dim ond un gôl y mae Llanelli wedi ei ildio yn y tair gêm ddiwethaf a does dim dwywaith y bydd Legg yn gobeithio parhau â’r record dda honno drwy gadw llechen lân yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn.

Yn y pen arall bydd Rhys Griffiths yn awyddus i ychwanegu at y ddeunaw gôl y mae eisoes wedi’i sgorio’r tymor hwn. Ond nid Griffiths yn unig sydd wedi bod yn sgorio i Lanelli’r tymor hwn ac mae hynny’n rhywbeth sydd wedi plesio’r rheolwr, Andy Legg:

“Ar ddiwedd y tymor diwethaf fe osodon ni dargedau, ac un o’r rheiny oedd sgorio mwy o goliau o gwmpas y cae i gyd a pheidio â dibynnu’n ormodol ar Rhys Griffiths. Rydyn ni wedi dechrau gwneud hynny mewn gemau diweddar ac rydym yn sicr yn gwella yn yr agwedd honno.”

Ond mae Legg yn hynod hapus â pherfformiadau ei brif sgoriwr hefyd wrth gwrs:

“Mae Rhys yn chwarae’n well y tymor hwn, yn cyfrannu llawer mwy na goliau’n unig. Ac mae ei record sgorio yn un wych hefyd felly rhaid rhoi clod iddo.”

Mae’r blaenwr wedi sgorio pedair yn ei bedair gêm ddiwethaf a sgoriodd hefyd yn y gêm gyfatebol yn Stebonheath ym mis Medi.

Enillodd Llanelli’r gêm honno o 2-0 a byddai canlyniad tebyg eto yn siŵr o blesio’r rheolwr. A gallai buddugoliaeth godi Llanelli i frig y gynghrair yn ddibynnol ar ganlyniad Bangor oddi cartref yn y Drenewydd. Ond os na all y Cochion gipio’r tri phwynt ym Mhort Talbot gallai’r Seintiau Newydd neidio yn ôl dros eu pennau i’r ail safle.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:45.