Bydd Port Talbot yn gobeithio dod â rhediad gwael diweddar i ben wrth iddynt groesawu Llanelli i Stadiwm GenQuip o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Mae Port Talbot wedi colli dwy gêm yn olynol a dim ond un pwynt y maent wedi ei ennill yn y pedair gêm ddiwethaf.
Doedd gan Mark Jones ddim llawer o gwynion am y canlyniad yng ngêm gartref ddiwethaf ei dîm wrth i Aberystwyth eu curo’n gyfforddus o 4-0. Ond roedd Jones yn anhapus iawn â pherfformiad y dyfarnwr yn y golled oddi cartref ym Mhrestatyn yr wythnos diwethaf. Dichon y bydd y rheolwr yn gobeithio am berfformiad gwell gan ei chwaraewyr a’r dyfarnwr brynhawn Sadwrn felly.
Un newydd da a ddaeth o’r gêm yng Ngherddi Bastion yr wythnos diwethaf oedd ymddangosiad byr y blaenwr Cortez Belle oddi ar y fainc. Mae’r blaenwr wedi bod yn dioddef ag anaf ers diwedd mis Hydref ac mae’r tîm wedi gweld ei golli. Does dim dwywaith y bydd Mark Jones yn gobeithio y gall chwarae rhan unwaith eto’r wythnos hon yn dilyn deg munud dylanwadol yr wythnos diwethaf. Bydd Martin Rose ar gael unwaith eto hefyd yn dilyn gwaharddiad.
Hon yw’r gyntaf mewn cyfres o gemau anodd i Bort Talbot dros yr wythnosau nesaf. Yn dilyn ymweliad Llanelli’r penwythnos hwn mae tîm Mark Jones yn teithio i Gastell Nedd ac yn croesawu Bangor i’r GenQuip. Erbyn y ddwy gêm ddarbi yn erbyn Lido Afan dros gyfnod y Nadolig mae’n debyg y bydd y chweched safle holl bwysig allan o gyrraedd y Gwŷr Dur os na allant gasglu ychydig o bwyntiau yn eu tair gêm nesaf, gan ddechrau yn erbyn Llanelli ddydd Sadwrn.
Gall buddugoliaeth godi Port Talbot uwch law Airbus yn ôl i’r seithfed safle ond os y collant eto’r penwythnos hwn gallant golli mwy o dir ar Brestatyn yn y chweched safle.
Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:45.