Aaron Ramsey yn y crys cefnogwyr tîm pêl-droed Prydeinig y Gemau Olympaidd
Caio Higginson sy’n gofyn os ydy Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dechrau ennill y ddadl yn erbyn tîm GB yn y Gemau Olympaidd?

Fel gornest tynnu rhaff, mae chwaraewr ifanc Cymru wedi eu dal mewn penbleth ynglŷn â’r hyn i ddweud ynglŷn â thîm GB yn y Gemau Olympaidd.

Ar yr un pen i’r rhaff mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn ystyfnig ymwrthod rhag datgan gormod o eiriau yn gyhoeddus, dim ond ategu’r hyn maent wedi dweud ers tarddu’r ddadl.

Ac ar ben draw’r rhaff, mae’r pwyllgor Olympaidd a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr yn tynnu’n bryfoclyd i’r cyfeiriad arall.

Ac mae gan y ddwy garfan haid o gefnogwyr yn lleisio’u barn hefyd.

Ennill y dydd?

Ond mae’n ddigon posib fod y Gymdeithas Bêl-droed wedi ennill y tir uchel gyda’r datblygiadau diweddaraf yn y mater.

Er i Gareth Bale ac Aaron Ramsey ymddangos yn gwisgo crysau cefnogwyr GB, ni chafwyd ymateb gandryll gyhoeddus gan y Gymdeithas, ac fe ddwedodd Gary Speed yn gyhoeddus nad oedd hyn yn mynd i effeithio ar eu gyrfaoedd rhyngwladol gyda Chymru. A hynny er i rai o gefnogwyr Cymru alw am ddiarddel y ddau o ddyfodol y tîm cenedlaethol a’r crys coch.

Yr wythnos yma mae carfan Cymru wedi bod yn ymarfer ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy ddydd Sadwrn, a Speed wedi cael cyfle i drafod safbwynt y Gymdeithas Bêl-droed gyda’r chwaraewyr tu ôl i ddrysau caeedig.

Wedi hynny cafwyd cyfweliadau gan Joe Allen a Chris Gunter, a oedd wedi newid tôn eu cân rhyw ychydig.

Er nad ydynt wedi gwrthod y syniad o chwarae dros dîm GB, roedd yna gryn dipyn o feddwl tu ôl yw geiriau wrth ymateb i gwestiynau gan y wasg – yn cydnabod safbwynt y Gymdeithas, ac eto dal i bendroni yn dawel bach.

O na fyddai’n Sais…

Yn y cyfamser mae Stuart Pearce, cyn amddiffynnwr Lloegr a’r dyn sydd wedi ei ddewis i hyfforddi tîm GB wedi awgrymu mai Gemau Olympaidd Llundain fydd unig obaith y criw yma o chwaraewyr i chwarae mewn cystadleuaeth ryngwladol fawr.

Wrth wneud hynny mae wedi nodi’r hen alar yng nghyfryngau Prydain, ’Ryan Giggs – o petai e ond yn Sais’.

Un peth sydd yn siŵr, fe fydd y ddadl yma yn parhau tan seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd, pan fydd sylw pawb wedi troi at wir gampau’r Olympics.

Ond yn y cyfamser, efallai fod y Gymdeithas wedi ennill y ddadl….am nawr.