Bangor  2  –  1  Airbus UK Brychdyn

Ar ôl gêm gyfatal yr wythnos diwethaf yn erbyn Lido Afan, roedd Bangor yn croesawu Airbus UK ar ôl eu gêm gyfartal hwythau yn erbyn Castell Nedd dros y penwythnos.

Ni allai Bangor fod wedi gofyn am ddechrau gwell wrth i Chris Jones benio i gefn y rhwyd o gic cornel Sion Edwards o fewn dwy funud.  Ond fe darodd yr ymwelwyr nôl gyda Craig Whitfield yn sgorio ar ôl 54 munud.

Fe brofwyd gôl-geidwad  Bangor Lee Idzi sawl gwaith  wrth iddo arbed nifer o ymdrechion gan yr ymwelwyr.

Ond yn y diwedd, Les Davies ddaeth a’r gôl i sicrhau buddugoliaeth i Fangor wrth iddo dderbyn y bêl gan Chris Jones a’i thanio i gefn y rhwyd.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Bangor yn yr ail safle tra bod Airbus UK yn yr wythfed safle ac yn gyfartal o ran pwyntiau gyda’r Drenewydd.

Castell Nedd  1  –  1  Y Seintiau Newydd

Ar noson wlyb yn Ne Cymru, Castell Nedd gipiodd y gôl gyntaf gyda Craig Hughes yn sgorio ar ôl deuddeg munud.

Cafwyd ymgais dda arall gan Hughes wrth i’r tîm cartref chwilio am ail ond llwyddodd Paul Harrison  yn y gôl  i glirio.

Ar ôl hanner awr fe beniodd Steve Evans y bêl i gefn y rhwyd i’r ymwelwyr i ddod a’r sgôr yn gyfartal.

Cafodd apêl am gic o’r smotyn ei wrthod wrth i Lee Trundle syrthio yn y cwrt yn dilyn  sialens gan Evans, ond yn y diwedd bu’n rhaid i’r ddau dîm dderbyn pwynt yr un ar y noson.

Mae’r Seintiau Newydd yn aros ar frig y tabl o bedwar pwynt, a Chastell Nedd yn llithro un i’r pedwerydd safle.

Llanelli  2  –  0  Caerfyrddin

Ar ôl dwy gêm gyfartal ac un golled yn eu tair gêm ddiwethaf, bydd Llanelli’n falch o’r fuddugoliaeth yn erbyn eu gwrthwynebwyr lleol  ar barc Stebonheath.

Yn yr hanner cyntaf, Caerfyrddin oedd yn hawlio’r meddiant ond heb drwblu Ashley Morris yn y gôl i Lanelli rhyw lawer.

Prin oedd y cyfleoedd i sgorio nes i Chris Llewellyn benio croesiad Jason Bowen i’r rhwyd ar ôl hanner awr o chwarae.

Wedi cael hwb o’r gôl daeth Llanelli’n agos eto – tarodd ergyd Antonio Corbisiero yn erbyn y postyn, cyn i Rhys Griffiths fethu a chael ergyd lân ar bêl o gyfle arall.

Roedd Llanelli ddwy ar y blaen wedi wyth munud o’r ail hanner – Rhys Griffiths yn rhwydo’i ail gôl ar bymthegfed y tymor yma.

Buddugoliaeth gyfforddus i Lanelli sydd o fewn dau bwynt i’r ail safle, tra bod Caerfyrddin ar waelod y tabl.

Port Talbot  2  –  2  Bala

Dwy gôl o fewn munudau i’w gilydd yn yr ail hanner sicrhaodd bwynt i Bort Talbot ar ôl iddyn nhw fynd dwy gôl ar ei hôl hi yn yr hanner cyntaf.

Fe deithiodd Bala i Bort Talbot yn llawn hyder wedi curo Aberystwyth dros y penwythnos, ond dechreuodd Port Talbot yn gryf yn yr ugain munud cyntaf.  Er gwaethaf yr holl bethau cadarnhaol gan Bort Talbot, sgoriodd Lee Hunt ychydig cyn hanner amser i roi’r ymwelwyr yn y blaen.

Bron yn syth ar ôl i’r gêm ail ddechrau, fe ildiodd Port Talbot gôl arall ar ôl i Mark Connolly benio i gefn rhwyd y tîm cartref.

Roedd angen ymateb cyflym ar Bort Talbot, ac fe ddaeth Martin Rose i’r adwy gan benio i’r rhwyd o groesiad Lee John.

Ychydig funudau’n ddiweddarach fe sgoriwyd Martin Rose ei ail gôl, a’i chweched o’r tymor.  Gyda momentwm yn glir ar ochr Port Talbot, fe gafodd ymosodwr Bala, Lee Hunt, ei ddanfon o’r cae am fwrw Cochlin gyda’i benelin ar ôl 71 o funudau.

Er i Bort Talbot fwynhau ugain munud o feddiant, ni ddaeth gôl arall i gipio’r fuddugoliaeth.

Ar ôl y gêm gyfartal yma, mae Port Talbot yn eistedd yn y seithfed safle a’r Bala ddeg pwynt uwch eu pennau yn y pumed safle.

Prestatyn  2  –  1  Drenewydd

Fe gymerwyd Prestatyn fantais lawn wrth gipio eu buddugoliaeth gyntaf mewn pedair gêm sy’n rhoi’r tîm yn y chweched safle gyda dau bwynt yn fwy na Phort Talbot.

Ond roedd angen cic o’r smotyn gan Neil Gibson yn yr amser wedi’i ganiatáu am anafiadau i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Nicky Rushton roddodd Y Drenewydd ar y blaen ychydig wedi’r awr gydag ergyd o ugain llath.

Daeth Darren Hughes o’r fainc, ac wedi dim ond ychydig o eiliadau fe gipiodd ei gôl cynghrair gyntaf gyda chwarter awr yn weddill  cyn i gic o’r smotyn Gibson selio’r fuddugoliaeth.