Lee Hunt
Bala 3-0 Aberystwyth
Roedd gôl ym mhob hanner gan Lee Hunt ynghŷd ag un rhwng y ddwy gan Mark Connolly yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Bala ar Faes Tegid nos Wener.
Wedi dweud hynny, yr ymwelwyr oedd tîm gorau’r hanner cyntaf a gorfodwyd Terry McCormick yn y gôl i’r Bala wneud un arbediad gwych. Ond y tîm cartref a aeth ar y blaen a hynny dri munud cyn yr egwyl, Hunt yn penio i’r rhwyd yn dilyn croesiad Stephen Brown o’r dde.
Roedd hi’n ddwy yn eiliadau olaf yr hanner diolch i ergyd Connolly o’r dde a hedfanodd dros ben gôl-geidwad newydd Aber, Craig Richards.
Roedd Richards wedi’i guro eto wedi naw munud o’r ail hanner, Hunt yn creu lle iddo ef ei hun cyn rhwydo o ddeg llath.
Cafodd Hunt a Connolly gyfleoedd i ychwanegu at y sgôr ond aros yn 3-0 wnaeth hi tan y diwedd. Roedd hi’n ymddangos fod Aber wedi cael gôl gysur haeddianol ond ni chafodd ei chaniatáu oherwydd camsefyll.
Mae’r Bala yn aros yn bumed er gwaethaf y tri phwynt ond dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn eu gwahanu nhw â Chastell Nedd a Llanelli yn y ddau safle uwch eu pennau. Aberystwyth oedd yr unig dîm yn y pum isaf i golli dros y penwythnos ac maent yn disgyn i’r unfed safle ar ddeg o ganlyniad.
Lido Afan 0-0 Bangor
Di sgôr oedd hi yn Stadiwm Marstons am y pedwerydd tro mewn wyth gêm y tymor hwn.
Bangor a ddaeth agosaf at sgorio yn yr hanner cyntaf ond arbedodd Chris Curtis gic rydd Eddie Jebb yn wych.
Dangosodd Lido fwy o addewid wedi’r egwyl gydag ergyd Leon Jeanne o bellter yn mynd fodfeddi dros y trawst. Cafodd Jonothan Hood gyfle gwych un ar un yn erbyn Lee Idzi yn y gôl i Fangor ond llwyddodd Idzi i arbed.
Tarodd ergyd hwyr gan Dave Morley y trawst ond gêm gyfartal oedd y canlyniad teg.
Mae’r pwynt yn ddigon i gadw Bangor yn yr ail safle er eu bod yn colli mwy o dir ar y Seintiau ar y brig, tra mae Lido yn aros yn ddegfed er gwaethaf pwynt yn erbyn y pencampwyr.
Caerfyrddin 2-1 Prestatyn
Cafwyd buddugoliaeth bwysig i’r tîm ar y gwaelod ym Mharc Waun Dew brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Geraint Passmore y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond 12 munud gydag ergyd a wyrodd oddi ar amddiffynnwr Prestatyn i mewn i’r rhwyd. Cawsant gyfleoedd eraill i ychwanegu at eu mantais ond aroshodd hi’n 1-0 tan yr egwyl.
Yn wir, arhosodd felly tan ddeg munud o’r diwedd pan rwydodd Jack Christopher i sicrhau’r tri phwynt. Fe gafodd Prestatyn un gôl yn ôl on rhy ychydig rhy hwyr oedd ymdrech Karl Murray bedwar munud cyn y diwedd.
Mae tîm Tomi Morgan yn aros ar waelod y tabl er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond pwynt sydd yn eu gwahanu hwy ac Aberystwyth yn yr unfed safle ar ddeg bellach. Mae Prestatyn hefyd yn dal eu gafael ar y chweched safle holl bwysig oherwydd canlyniadau eraill.
Y Drenewydd 2-0 Port Talbot
Cododd y Drenewydd o safleoedd y gwymp gyda buddugoliaeth dda yn erbyn Port Talbot ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Max Penk y tîm cartref ar y blaen wedi ychydig llai na chwarter awr o chwarae yn dilyn cyfnod da o bwyso gan y Drenewydd. Daeth y bêl i Penk ar ochr y cwrt cosbi yn y diwedd a chododd hi’n daclus dros Bartek Fogler yn y gôi i’r ymwelwyr.
Cafodd Nicky Rushton gyfle da i ddyblu mantais y Drenewydd un ar un gyda Folger ond arbedodd y golwr yn dda. Arbedodd yn dda hefyd o ymdrechion Luke Boundford a Zac Evans yn yr ail hanner.
Ond cafodd yr eilydd, Boundford well lwc 12 munud o’r diwedd wrth i’w gôl sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Drenewydd.
Mae’r tri phwynt yn ddigon i godi’r Drenewydd ddau safle i nawfed yn y tabl tra mae Port Talbot yn aros yn seithfed.
Y Seintiau Newydd 4-2 Llanelli
Roedd hi’n dân gwyllt yn yr hanner cyntaf yn Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn wrth i’r Seintiau rwydo pedair heibio i Lanelli yn y 45 munud cyntaf. Ac er i’r ymwelwyr roi gwedd fwy parchus ar y sgôr diolch i ddwy gôl gysur yn yr ail hanner roedd o’n dipyn o berfformiad gan y tîm ar y brig.
Alex Darlington sgoriodd y gyntaf wedi 12 munud, y blaenwr yn sgorio wrth y postyn pellaf yn dilyn croesiad da Scott Ruscoe. Roedd hi’n ddwy wedi llai nag 20 munud diolch i Greg Draper. Torodd y trap cam sefyll cyn mynd heibio i Ashley Morris yn y gôl i Lanelli a sgorio i rwyd wag.
Cafodd Darlington ei ail ef a thrydedd y Seintiau toc wedi hanner awr o chwarae. Gwaith da gan Simon Spender ar yr asgell dde a’i groesiad yn dod o hyd i Darlington yn y canol ac yntau’n gorffen yn daclus gyda foli.
Roedd hi’n bedair bum munud cyn yr egwyl wrth i Draper rwydo ei ail yntau. Gwaith da gan Chris Jones y tro hwn yn creu’r cyfle i’r ymosodwr ac yntau’n sgorio wrth y postyn pellaf.
Cyfle un o flaenwyr Llanelli i sgorio dwy oedd hi yn yr ail hanner a phwy arall ond Rhys Griffiths a wnaeth hynny. Daeth ei gyntaf yn dilyn ergyd nerthol Chris Venables a oedd yn rhy boeth i Paul Harrison yn y gôl i’r Seintiau, a daeth yr ail o’r smotyn yn dilyn llawiad Aeron Edwards wedi 66 munud.
Llygedyn o obaith i Lanelli gyda chwarter y gêm ar ôl felly ond deffrodd y Seintiau a hwy orffennodd y gêm gryfaf a gallai’r eilydd, Matty Williams fod wedi ychwanegu’r bumed oni bai am waith da James Secker ar y llinell.
Y Seintiau yn gwneud dipyn o safiad felly ac yn ymestyn eu mantais ar y brig i chwe phwynt yn y broses. Mae Llanelli ar y llaw arall yn aros yn drydydd.
Airbus 2-2 Castell Nedd
Gêm gyfartal a gafwyd ar y Maes Awyr brynhawn Sul er i Airbus fynd ar y blaen ddwy waith yn erbyn yr ymwelwyr o Gastell Nedd.
Dim ond tri munud a oedd wedi mynd pan agorodd Ian Sheridan y sgorio i Airbus yn dilyn camgymeriad erchyll gan gôl-geidwad Castell Nedd, James Wood. Dangosodd Wood ansicrwydd ar y bêl ar ochr y blwch cosbi a chafodd ei gosbi gan Sheridan wrth i’r blaenwr ddwyn y bêl a sgorio.
Cafodd Sheridan, Mike Hayes ac Adam Worton gyfleoedd i ddyblu mantais Airbus cyn i Luke Bowen unioni pethau bum munud cyn yr egwyl. Derbyniodd yr ymosodwr y bêl gan Craig Hughes cyn tanio ergyd gywir heibio i Andy Mulliner yn y g l i Airbus.
Roedd Airbus yn ôl ar y blaen ddeg munud wedi’r egwyl diolch i ergyd daclus Hayes. Ond aeth Airbus i lawr i ddeg dyn wedi 67 munud wrth i Mark Cadwallader dderbyn ail gerdyn melyn a chymerodd yr ymwelwyr fantais yn syth, Bowen yn penio’i ail o gic gornel i’w gwneud hi’n 2-2.
Roedd digon o amser i Gastell Nedd dderbyn cerdyn coch hefyd wrth i Chris Jones gael ei ddanfon o’r cae ond arhosodd y sgôr yn gyfartal hyd y diwedd.
Mae Castell Nedd yn aros yn bedwerydd yn y tabl er fod Y Bala yn closio y tu ôl iddynt, ac y mae Airbus yn aros yn yr wythfed safle.
Gwilym Dwyfor Parry