Yn ôl Huw Ifor, gohebydd CPD Wrecsam, roedd amddiffynwyr Wrecsam i’w canmol..

Ganwyd Guto Ffowc yn ninas Efrog ac ar  5 Dachwedd yr ydym yn dathlu ei fod wedi methu yn ei  ymgais i ddinistrio’r Senedd. Mae ysgol St Pedr yn Nghaerefog yn gwrthod  rhoi’r hen Guto ar y goelcerth gan bod ganddyn nhw bolisi o bedio llosgi cyn fyfyrwyr.

Dau gan llath i lawr y lon roedd Wrecsam yn herio Caerefrog ym Mootham Crescent ddydd Sadwrn a rhyw fud losgi wnaeth y gem honno.

Chwaraewyd y gem mewn ysbryd hyfryd. Yr oeddym yn nerfus pan oedd Caerefog yn ymosod ac yn hynod obeithiol gyda’n ymosodiadau ein hunain, roedd hi’n gem agored iawn ond ychydig o gyfleon a gafwyd.

Mae cefnogwyr Wrecsam yn hoff iawn o wawdio golwr y gwrthwynebwyr wrth iddo gymyrd ciciau gôl. Roedd hi’n waeth i Mike Ingham druan oedd yn arfer bod yn golwr i ni.

Roedd elfen o dafod yn y boch yn eu cri gan bod Ingham wedi cael perfformiad gwych yn y gem.

Yn yr ail hanner fe ddylai Morrell wedi sgorio pan gafodd beniad rhydd yn nghanol y gôl ond arbedodd Ingham yn gelfydd.

‘Canmol amddiffynwyr’

Yn aml iawn yr ydw i yn canu clodydd rhai  amddiffynwyr ond nid wyf am enwi yr un ohonynt heddiw gan mai fel uned yr wyf am eu canmol. Er yr holl sgiliau ymosodol a symudiadau cywrain heb y bel yr oedd amddiffyn Wrecsam yn gadarn drwy gydol y gem.

Roedd ymdrech y  chwaraewyr ganol cae yn arbennig hefyd gyda Clarke a Harries yn rhedeg yn ddi ddiwedd. Braf oedd gweld rhyw ugain munud o Lee Fowler ar ddiwedd y gem wrth iddo ddod yn ol wedi anaf ar ei benglin.

Roeddwn yn hapus iawn gyda pwynt o’r gem gan bod hynny yn ein cadw ar frig  yr adran oherwydd ein bod wedi ildio cyn lleied o goliau.

Mae Caerefog yn dim da a thaclus iawn. Gallai rhywun eu cymharu ac Arsenal, maent yn creu patrymau taclus yn nghanol cae ac mae eu blaenwyr yn anhygoel o gyflym. Mae Wrecsam ar y llaw arall yn llawer mwy uniongyrchol ond o bosib yn beryclach oherwydd hynny.

Wedi taith hir draw i Gaerefrog byddwn wedi hoffi gweld goliau ond roedd ysbryd y gem a natur y perfformiad yn plesio’n arw. Fe gawn ni seibiant o’r gynghrair am ychydig nawr a chanolbwyntio ar daith bell i Gaergrawnt ddydd Sadwrn yn nghwpan yr FA.