Robbie Deans
Mae hyfforddwr tîm rygbi rhyngwladol Awstralia, Robbie Deans wedi enwi ei garfan ar gyfer eu taith i Gymru a Lloegr y mis nesa.
Ymhlith y garfan mae tri enw newydd. Fe fydd y canolwr Ben Tapuai a’r cefnwr Ben Lucas sydd yn chwarae i’r Queensland Reds, a’r blaenwr rheng ôl Dave Dennis o’r NSW Waratahs yn gobeithio ennill eu capiau cyntaf ar y daith.
Er hyn mae Deans wedi enwi carfan gref gydag ond dau o’r pymtheg a gychwynnodd y gêm am y fedal efydd yn erbyn Cymru yn colli allan oherwydd anafiadau, Kurtley Beale a’r maswr Quade Cooper. Mae gan y garfan yma 634 o gapiau rhyngwladol rhyngddynt.
Er iddyn nhw orffen cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn y drydedd safle maent wedi codi i ail yn rhestr detholion y byd, hyn er iddynt golli i’r Iwerddon a Seland Newydd yn y rownd gyn derfynol.
Fe fyddant yn cael cyfle arall i wynebu tîm wedi eu hyfforddi gan Graham Henry a Steve Hanson y penwythnos cyn herio Cymru. Fe fydd y gwŷr o Seland Newydd yn hyfforddi tîm y Barbariaid ar gyfer y gêm fydd yn Twickenham ar 26 Dachwedd, ac mae pum aelod o dîm llwyddiannus y Crysau Duon wedi eu henwi yng ngharfan y Barbariaid.
Yna, ar 3 Rhagfyr fe fyddant yn teithio i Gaerdydd a Stadiwm y Mileniwm i gystadlu am dlws James Bevan.
‘Datblygu’
Mewn datganiad ar wefan bwrdd rygbi Awstralia, dywedodd Robbie Deans, “Gallech ddadlau mai Cymru oedd y tîm sydd wedi datblygu fwyaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd, ac fe fydd eu disgwyliadau wedi codi wedi’r perfformiadau yna.”
“Mae Warren (Gatland) wedi dweud yn gyhoeddus mai eu huchelgais yw cael eistedd gyda thimau gorau’r byd trwy eu curo yn gyson, ac fe fyddant yn gweld y prawf yma yn gyfle gwych i ddechrau’r broses yna, ac adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn Seland Newydd.”
Ynghyd a Beale a Cooper fe fydd Awstralia heb wasanaeth rhai aelodau arall o’u carfan cwpan y byd oherwydd anafiadau, gan gynnwys, Drew Mitchell, Pat McCabe, Wycliff Palu, Rocky Elsom, Dan Vickerman a Keepu.
Fe fydd Awstralia yn chwarae dwy gêm ar eu taith, Y Barbariaid ar 26 Dachwedd a Chymru ar 3 Rhagfyr.
Dyma’r garfan 26 dyn:
Blaenwyr – Ben Alexander, Pekahou Cowan, Dave Dennis, Scott Higginbotham, Matt Hodgson, James Horwill (capten), Salesi Ma’afu, Ben McCalman, Stephen Moore, David Pocock, Tatafu Polota Nau, Radike Samo, Nathan Sharpe, Rob Simmons, James Slipper
Olwyr – Adam Ashley-Cooper, Berrick Barnes, Anthony Faingaa, Will Genia, Rob Horne, Digby Ioane, Ben Lucas, James O’Connor, Nick Phipps, Ben Tapuai, Lachie Turner