Cafodd Abertawe gymeradwyaeth gan y dorf yn Anfield ar ddiwedd eu perfformiad dewr mewn gêm gyfartal yn erbyn Lerpwl.

Fe enillodd tîm Brendan Rogers eu hail bwynt oddi cartref y tymor yma gan aros yn y degfed safle yn yr Uwchgyngrhair neithiwr.

Bydd Abertawe yn chwarae yn erbyn Manchester United nesaf yn Stadiwm Liberty yn y ddinas a hynny ar 19 Tachwedd.