Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi cryfhau eu gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth o 2-0 gartref yn erbyn Leeds yn y Bencampwriaeth.

Sgoriodd Junior Hoilett chwip o gôl yn yr hanner cyntaf ar ôl i Kalvin Phillips golli’r meddiant, ac fe rwydodd yr eilydd Robert Glatzel ar ôl 71 munud i ddyblu’r fantais.

Ac yn y cefn, fe lwyddodd y golwr Alex Smithies i wrthsefyll ymosod Leeds, sy’n aros yn yr ail safle yn y tabl, gyda’r Adar Gleision yn codi i’r seithfed safle.

Mae gan Gaerdydd yr un nifer o bwyntiau â Preston, sy’n chweched, a bydd y ddau dîm yn herio’i gilydd yng ngogledd-orllewin Lloegr ddydd Sadwrn nesaf (Mehefin 27).

Jazz Richards yn gadael

Daw’r fuddugoliaeth drannoeth cyhoeddiad Jazz Richards ei fod e am adael Caerdydd ar ddiwedd y tymor ar ôl pedair blynedd gyda’r Adar Gleision.

Fe gyhoeddodd yr amddiffynnwr, sy’n hanu o Abertawe ac sydd wedi ennill 14 o gapiau dros Gymru, ei ymadawiad mewn neges ar Instagram.

“Mae’n bryd ffarwelio â Chlwb Pêl-droed Caerdydd,” meddai’r neges.

“Fe fu’n uffar o daith gyda llawer o uchafbwyntiau ac iselfannau ond yn fwy na dim, fe fu’n brofiad gwych.

“Dw i wedi cyfarfod â llawer o bobol wych ar hyd y daith, a phobol y gallaf eu galw’n ffrindiau am weddill fy oes.”

Mae’n dweud y bydd e bob amser yn “ddiolchgar am grediniaeth a chefnogaeth” cefnogwyr Caerdydd, gan ddweud bod “y bennod ar ben ond y stori’n parhau”.