Mae chwaraewyr timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd wedi bod yn dweud “Diolch NHS” wrth ddychwelyd i’r cae ar gyfer eu gemau cyntaf ers ymlediad y coronafeirws.

Teithiodd yr Elyrch i Middlesbrough ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 20), tra bo’r Adar Gleision yn herio Leeds yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw (dydd Sul, Mehefin 21).

Mae’r ddau dîm wedi bod yn arddangos bathodyn y Gwasanaeth Iechyd ar eu dillad, ac mae’r Elyrch eisoes wedi ymrwymo i wneud yr un fath ar gyfer pob gêm cyn diwedd y tymor.

Mae’r chwaraewyr hefyd wedi cymeradwyo staff y Gwasanaeth Iechyd cyn y gemau, yn ogystal â dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch Black Lives Matter drwy fynd ar eu pengliniau ar y cae.

Mae Caerdydd hefyd wedi talu teyrnged i Peter Whittingham, eu cyn-chwaraewr 35 oed fu farw fis Mawrth.

‘Mae’n bwysig talu teyrnged’

“Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig talu teyrnged i’r miloedd o staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n parhau i weithio’n anhunanol ar ein rhan ni yn y gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu,” meddai Trevor Birch, cadeirydd Abertawe.

“Mae’r coronafeirws wedi effeithio cymaint o bobol yn genedlaethol ac yn lleol, ac mae cefnogaeth a gwasanaeth y Gwasanaeth Iechyd a staff eraill y rheng flawn wedi bod yn hanfodol yn y frwydr i’n cadw ni i gyd yn ddiogel yn ystod yr amserau anodd hyn.

“Mae’r gymuned bêl-droed gyfan wedi dod ynghyd i ddangos ei diolchgarwch a’i gwerthfawrogiad am eu hymroddiad parhaus ac, fel clwb Cymreig, mae’n wych y gallwn ni hefyd dalu ein teyrnged arbennig ein hunain i’r staff hynny sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”