Heb griced sirol tan o leiaf Awst 1, mae golwg360 wedi bod yn edrych yn ôl ar rai o gemau Morgannwg o’r gorffennol.

Yn y darn diweddaraf, ar y diwrnod pan ddylai Morgannwg fod wedi teithio i Southampton i herio Hampshire mewn gêm 50 pelawd, chwip o gêm o’r un gystadleuaeth y tymor diwethaf sydd dan sylw.

Roedd Morgannwg ar fin wynebu tîm oedd â record 100% yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf, yn dilyn buddugoliaeth dros Gaint yn gynharach yn yr wythnos.

Ddylai hi ddim bod wedi bod yn hawdd y tro hwn, serch hynny, gyda Morgannwg yn sgorio 291 yn eu batiad nhw ar ôl dewis batio.

Roedd y sir Gymreig yn 28 am dair ar un adeg yn y batiad diolch i fowlio cywir Kyle Abbott yn y pelawdau agoriadol, gyda Craig Meschede, Charlie Hemphrey a Marnus Labuschagne i gyd allan yn gynnar.

Daeth sefydlogrwydd diolch i Billy Root a’r Cymro David Lloyd, gyda phartneriaeth o 100 ar gyfer y bedwaredd wiced, gyda’r gogleddwr yn cyrraedd ei hanner canred gydag ergyd sgwâr am chwech i’r ffin bellaf.

Ond llithron nhw o fewn dim o dro i 140 am chwech, cyn cael eu hadfer unwaith eto gan y chwaraewr amryddawn Graham Wagg, a gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 47 o belenni gan sgorio 68.

Roedd partneriaeth allweddol hwnnw o 95 gyda Chris Cooke hefyd yn allweddol wrth sicrhau sgôr parchus yn y pen draw.

Cwrso’n llwyddiannus

Diolch i bartneriaeth ail wiced swmpus o 161 rhwng Tom Alsop (130 heb fod allan) a’i gapten James Vince (95), fe lwyddodd Hampshire i gyrraedd y nod o 292 gydag wyth pelawd yn weddill.

Dyma ail hanner canred James Vince yn olynol, wrth iddo gyrraedd y garreg filltir oddi ar 43 o belenni.

Hwn, hefyd, oedd canred cyntaf Alsop ers dau dymor, ac fe gyrhaeddodd yntau’r nod oddi ar 93 o belenni.

Gweddill y gystadleuaeth

Cafodd Morgannwg ymgyrch siomedig wedi hynny, gan orffen yn chweched yn y tabl.

Ond fe gyrhaeddodd Hampshire y rownd derfynol, cyn colli o chwe wiced yn erbyn Gwlad yr Haf yn y rownd derfynol.