Mae’r Cymro Cymraeg Ben Cabango wedi cael ei ganmol am ei berfformiad yn ymyl Ben Wilmot yng nghanol amddiffyn Abertawe oddi cartref ym Middlesbrough ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 20).
Roedd yr Elyrch yn fuddugol o 3-0 mewn stadiwm wag yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn eu gêm gyntaf ers dychwelyd ar ôl y coronafeirws.
Sgoriodd Rhian Brewster ddwy gôl, tra bod Andre Ayew wedi trosi’r drydedd o’r smotyn i sicrhau bod gan yr Elyrch flaenoriaeth o 3-0 erbyn yr egwyl, ac fe allen nhw fod wedi dyblu’r sgôr gydag ergydion gan Aldo Kalulu, Rhian Brewster a George Byers wedi taro’r pyst a’r trawst.
Ond roedd yr amddiffyn yn allweddol wrth sicrhau bod yr Elyrch yn cadw llechen lân am y deuddegfed tro y tymor hwn i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ers saith gêm, sy’n eu cadw o fewn cyrraedd i’r safleoedd ail gyfle.
Mae’r ddau chwaraewr 20 oed wedi bod yn chwarae yn absenoldeb y ddau amddiffynnwr canol arferol, y Cymro Joe Rodon a’r Iseldirwr Mike van der Hoorn.
Y ddau Ben
“Dw i eisiau dweud pa mor dda ro’n i’n meddwl fod y ddau Ben wedi chwarae,” meddai’r rheolwr Steve Cooper.
“Roedden nhw’n wych yn y cefn, yn enwedig yn amddiffynnol.
“Os ydych chi’n meddwl am y chwaraewyr maen nhw wedi chwarae yn eu herbyn – pobol fel Rudy Gestede, ac yna Ashley Fletcher yn dod ymlaen – maen nhw wedi edrych, am eu hoedran, yn hyderus ac wedi ymlacio yn erbyn y fath flaenwyr talentog a phrofiadol.
“Dw i mor hapus, ac mae’n argoeli’n dda i ni.”