Gydag Ewro 2020 wedi ei ohirio am flwyddyn, bydd BBC Cymru yn darlledu pob gêm Cymru yn nhwrnament 2016 yn ystod yr haf.
Bydd y gemau’n cael eu dangos mewn trefn, gyda gêm agoriadol Cymru yn erbyn Slofacia’n cael ei darlledu ar BBC One Wales ar Fehefin 7.
Ar ben hyn, bydd Don’t Take Me Home, ffilm sy’n dogfennu taith tîm rhyngwladol Cymru drwy gydol y twrnament, hefyd yn cael ei ddarlledu cyn y gemau ar BBC One Wales.
Mae’r ffilm yn rhoi cyfle i wylwyr brofi sut beth oedd bod yng nghalon yr ymgyrch yn ystod y twrnament.
“Roedd yr holl ymgyrch i gyrraedd twrnament rhyngwladol Cymru ers Cwpan y Byd 1958 yn daith epig,” meddai gohebydd pêl-droed BBC Cymru, Rob Phillips.
“Ond yn Ffrainc, llwyddodd carfan Chris Coleman i’n tywys ar daith na allai’r un ohonom ei ddychmygu cyn y fuddugoliaeth agoriadol yn erbyn Slofacia.”
Manylion y rhaglenni
- Cymru v Slofacia – Dydd Sul, Mehefin 7 – BBC One Wales
- Lloegr v Cymru – Dyss Sul, Mehefin 14 – BBC One Wales
- Cymru v Rwsia – Dydd Mawrth, Mehefin 16 – BBC Two Wales
- Cymru v Gogledd Iwerddon – Dydd Sadwrn, Mehefin 20 – BBC Two Wales
- Cymru v Gwlad Belg – Dydd Sul, Mehefin 21 – BBC One Wales
- Cymru v Portiwgal – Dydd Sadwrn, Mehefin 27 – BBC Two Wales