Mae un o sylwebwyr Sgorio yn credu y bydd gorfod aros blwyddyn arall am yr Ewros yn “gweithio o blaid Cymru”.

Sicrhaodd Cymru ei lle yn y bencampwriaeth gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Hwngari yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Dachwedd 19, 2019 – fe fydd S4C yn ail-ddangos y gêm honno am 5.30 bnawn fory.

Ac wrth edrych ymlaen at Ewros 2021, dywed Gwennan Harries mai peth da yw fod gan reolwr Cymru, Ryan Giggs, flwyddyn ychwanegol i weithio gyda’i garfan ifanc.

“Rydym yn gweld bod lot o’r chwaraewyr ifanc wedi datblygu yn sgil y gwaith a wnaethpwyd gan Osian Roberts a’i staff pan roedden nhw’n gweithio ar ddatblygu pêl-droed yng Nghymru,” meddai cyn-ymosodwr Cymru, Everton a Chaerdydd.

“Nawr mae gan Ryan Giggs flwyddyn arall i weithio gyda’r holl chwaraewyr ifanc yma – dw i’n meddwl fod hynny yn beth hynod gyffrous.”

Joe Allen

Mae Gwennan Harries hefyd yn falch y bydd Joe Allen yn cael cyfle i wella o’i anaf nawr bod yr Ewros wedi eu gohirio.

Rhwygodd y dewin canol cae ei dendon Achiles wrth chwarae i Stoke City yn erbyn Hull City ar Fawrth 7 a bu’n rhaid iddo gael ei gludo oddi ar y cae.

Ers hynny mae wedi derbyn llawdriniaeth ac mae’r clwb yn gobeithio y bydd yn holliach erbyn dechrau’r tymor nesaf.

“Mae’r gohiriad yn golygu y bydd Joe Allen yn holliach, sy’n enfawr,” meddai Gwennan Harries.

“Byddai ei absenoldeb ef yn golled gan ei fod yn rhan bwysig o sut mae’r tîm yn chwarae.

“Mae’r un peth yn wir am Daniel Brooks, oedd yn chwarae’n wych cyn iddo gael ei anafu, tra bydd Dan James, Joe Rodon a Ben Cabango yn cael blwyddyn arall i ddatblygu.

“Felly, er ei bod hi’n siomedig fod yr Ewros wedi eu gohirio, gallai hynny weithio o blaid Cymru.”