Abertawe 3-1 Bolton

Cafodd Darren Pratley groeso cynnes pan ddychwelodd i’r Stadiwm Liberty gyda’i glwb newydd, Bolton, ddydd Sadwrn. Treuliodd Pratley bum mlynedd lwyddiannus gyda’r Elyrch, gan gyfrannu i ddau ddyrchafiad.

Tymor diwetha sgoriodd Pratley un o’r goliau mwyaf yn hanes y clwb, pan rhwydodd o’i hanner ei hun ym munud ola’r gêm ail-gyfle yn erbyn Nottingham Forest. Dangosodd gefnogwyr Abertawe eu bod yn ddiolchgar iawn am ei gyfraniad i dŵf y clwb, drwy gymeradwyo Pratley cyn y gêm a phan gafodd ei eilyddio.

Nid clodfori Pratley oedd prif ddiddordeb y cefnogwyr ddydd Sadwrn. Roedd yn bwysig bod Abertawe’n ennill yn erbyn tîm sydd dal i danio tymor yma. Cyrraeddodd Bolton Abertawe yn 18ed yn y tabl, ac heb nifer o chwaraewyr oherwydd anafiadau. Roedd gêm ddydd Sadwrn yn gyfle euraidd i’r Elyrch ennill unwaith eto  yn y Stadiwm Liberty.

Roedd yr hanner cyntaf yn araf, heb lawer o gyfleoedd da i’r naill dim na’r llall. Ymosodwr Bolton, David N’Gog, gafodd y cyfle gorau pan drodd yn chwim yn y cwrt cosbi cyn ergydio, ond arbedodd Michel Vorm. Cyfyngu ar chwarae’r Elyrch oedd tacteg Bolton, ac fe lwyddon nhw rhwystro Abertawe rhag creu cyfleoedd.

Cyn hanner amser gwelodd Ricardo Gardner garden felen am droseddu cyson, ac yn fuan ar ôl hanner amser debynniodd y gwr o Jamaica ei ail garden felen am dynnu crys Nathan Dyer gyda’r asgellwr mewn safle peryglus. Dyma oedd trobwynt yr ornest.

Llai na munud ar ôl i Gardner adael y cae roedd Abertawe ar y blaen. O’r gic rhydd pasiodd Mark Gower y bêl i Joe Allen a rhedodd y Cymro bymtheg llath heb wrthwynebiad, cyn ergydio’n gywir i gornel waelod rhwyd Bolton. Ni fedrodd Bolton ail-drefnu, a cosbwyd dîm Owen Coyle gan chwarae pendant Allen.

Abertawe ar y blaen

Roedd Abertawe ar y blaen, er roeddent yn awyddus i sgorio mwy. Dechreuodd Nathan Dyer a Scott Sinclair ddylanwadu mwy ar y gêm. Ar ôl 57 munud lloriwyd Angel Rangel yn y cwrt cosbi gan dacl flêr gyn-chwaraewr Abertawe, Darren Pratley. Sgoriodd Sinclair o’r smotyn ac roedd Abertawe nawr yn rheoli’r gêm.

Gwthiodd yr Elyrch am fwy o goliau. Tarodd beniad Danny Graham y trawsbren, a parhaodd chwaraewyr canol-cae Abertawe i rheoli tempo’r gêm.

Gyda chwarter awr yn weddill rhoddwyd lygedyn o obaith i’r gwŷr o Ogledd Lloegr. Coesiodd Chris Eagles y bêl i mewn i gwrt cosbi Abertawe  ac ymestynodd Danny Graham i gicio’r bêl yn ddamweiniol heibio Michel Vorm ac i mewn i’w rhwyd ei hun.

Cofiodd y cefnogwyr am chwalfa anhygoel, ddi-esboniad Abertawe yn erbyn Wolves ar y Sadwrn cynt.

Roedd Sinclair yn anlwcus pan darodd ei ergydiad y trawsbren ar ôl pas gyfrwys Dyer o’r asgell dde.

Ym munudau ola’r gêm gwthiodd Bolton am ail gôl. Am y tro cyntaf drwy’r prynhawn, Bolton oedd yn creu’r gwasgedd. Gyda munud yn weddill diancodd Angel Rangel â’r bêl. Arafodd, chwiliodd am opsiynau a gwelodd Danny Graham ar ei ben ei hun yn y cylch canol. Derbyniodd bas gywir Rangel a rhedodd hanner y cae heb un amddiffynwr o fewn deg metr iddo. Pwyllodd Graham ac ergydiodd y bêl heibio’r golwr, Jääskeläinen. Maddeuwyd yr ymosodwr am ei gamgymeriad gynharach. O’r diwedd roedd Abertawe wedi cadarnhau’r canlyniad.

Mae tîm Brendan Rodgers nawr yn ddegfed yn y gynhrair, ac maent yn un o bump tîm sydd heb golli gem gartref eto. Wythnos nesa mi fydd Abertawe’n teithio i Anfield i chwarae yn erbyn Lerpwl, clwb arall sydd heb golli o flaen eu cefnogwyr cartref eto.

‘Allweddol’

Roedd buddigoliaeth Abertawe yn erbyn Bolton yn allweddol. Os yw Abertawe am sefyll yng nghynhrair orau’r byd, dyma’r gemau sydd rhaid iddynt ennill.

Mae’r Elyrch nawr wedi chwarae chwarter eu tymor, ac mae ganddyn nhw 12 pwynt yn barod. Mae ganddyn nhw ddau gêm anodd dros ben yn y pythefnos nesaf, yn erbyn Lerpwl yn Anfield, yna yn erbyn Manchester United yn y Stadiwm Liberty. Mae’n her frawychus i garfan amhrofiadol Rodgers.

Ar y llaw arall, fel ddywedodd hyfforddwr QPR, Neil Warnock, yn dilyn eu colled ddydd Sul yn erbyn Spurs, “mae’n well gen i deithio i stadiymau fel White Heart Lane heb lawer o obaith, na theithio i lefydd fel Leeds a Chaerdydd.”