Gwelodd golwr Aberystwyth, Stephen Cann gerdyn coch yn erbyn Bangor
Aberystwyth 0-2 Bangor

Cerdyn coch oedd y prif bwnc trafod unwaith yn rhagor wrth i Aberystwyth golli gartref o 2-0 yn erbyn Bangor yn gêm fyw Sgorio brynhawn Sadwrn.

Roedd gan Aberystwyth fynydd i’w ddringo wedi dim ond pum munud o’r gêm yng Nghoedlen y Parc. Sgoriodd Chris Jones gic o’r smotyn gynnar i’r ymwelwyr a chafodd gôl-geidwad a chapten y tîm cartref, Stephen Cann ei anfon o’r cae ar ôl derbyn dau gerdyn melyn.



Drama gynnar

Dim ond pum munud a oedd ar y cloc pan wrthymosododd Bangor yn slic yn dilyn cic gornel i Aberystwyth.

Derbyniodd Sion Edwards y bêl ar y chwith a chwarae pêl dda tuag at Alan Bull yn y cwrt cosbi, tarodd yntau’r bêl heibio i’r gôl-geidwad gyda’i gyffyrddiad cyntaf ond lloriodd Cann yr ymosodwr gan ildio cic o’r smotyn.

Yn ffodus i Aber dim ond cerdyn melyn a dderbyniodd y capten gan i’r dyfarnwr, Huw Jones ddyfarnu bod Bull yn mynd i ffwrdd o’r gôl pan gafodd ei droseddu.

Sgoriodd Chris Jones y gic o’r smotyn i roi Bangor ar y blaen ond dim ond wedyn ddaeth y ddrama fawr – wrth i Jones redeg i ddathlu cododd Cann y bêl o gefn ei rwyd a’i thaflu at Jones.

Plentynnaidd yn hytrach na maleisus oedd y weithred ond roedd hi’n ddigon i haeddu ail gerdyn melyn yn ôl Huw Jones a’i ddyfarnwr cynorthwyol.

Doedd Cann methu a chredu’r penderfyniad ond y ffaith amdani oedd bod Aberystwyth wedi derbyn eu nawfed cerdyn coch y tymor hwn, ac yn waeth fyth doedd dim gôl-geidwad ar fainc y tîm cartref. Doedd dim amdani felly ond rhoi’r menig i’r amddiffynnwr canol, Aneurin Thomas a symud y chwaraewr canol cae, Sion James i’r cefn.

Deg dyn Aber yn rheoli

Ond er mawr glod i’r tîm cartref, nhw oedd y tîm gorau yng ngweddill yr hanner cyntaf.

Bu rhaid i Lee Idzi arbed cic rydd dda o droed Sean Thornton wedi 13 munud ac ergydiodd Jordan Follows dros y trawst ychydig funudau’n ddiweddarach yn dilyn gwaith da i guro James Brewerton yn y blwch.

Cafwyd gwrthymosodiad da gan Aberystwyth wedi 27 munud, rhediad nerthol gan Geoff Kellaway ond roedd yn rhaid iddo ymestyn er mwyn cael ergyd ar y gôl ac o ganlyniad roddodd hi’n syth at Idzi.

Yna, ddeg munud cyn hanner amser daeth cyfle gorau Aber. Aeth Follows ar rediad lledrithiol i ganol y blwch cosbi ac fel yr oedd yn barod i ergydio cafodd ei dynnu i’r llawr gan Craig Garside.

Ail gic o’r smotyn y gêm a cherdyn melyn am y drosedd unwaith eto, ond arbedodd Idzi gic Andy Parkinson yn rhagorol cyn gwneud arbediad gwell fyth o ymdrech Lewis Codling.

Roedd 38 munud ar y cloc pan brofodd Bangor yr amddiffynnwr yn y gôl i Aber am y tro cyntaf ond doedd foli wan Chris Jones yn ddim trafferth i Thomas.

Roedd Aberystwyth yn anlwcus braidd i fod ar ei hôl hi ar hanner amser felly ond doedd neb i’w feio ond nhw eu hunain wrth i’w diffyg disgyblaeth gostio’n ddrud unwaith eto.

Dechrau’n debyg a wnaeth yr ail hanner wrth i ddeg dyn Aber barhau i greu cyfleoedd. Roedd hi’n llanast yn amddiffyn Bangor wedi 55 munud gydag Idzi yn methu a dyrnu’n glir ond llwyddodd Brewerton yn y diwedd i atal ergyd James McCarten.

Les yn Sicrhau’r Tri Phwynt

Ond Bangor sgoriodd y gôl nesaf wedi ychydig llai nag awr o chwarae, Les Davies yn troi ac ergydio ar ochr y cwrt cosbi, a’i ymgais yn gwyro yn erbyn troed McCarten i gefn y rhwyd.

Mewn gwirionedd dylai’r gwyriad fod wedi gwneud yr arbediad yn haws i Thomas yn y gôl ond amlygwyd am y tro cyntaf yn y gêm nad gôl-geidwad mohonno wrth iddo adael i’r bêl lithro drwy’i ddwylo.

Wedi hynny roedd pennau chwaraewyr Aberystwyth wedi disgyn a dim ond un tîm oedd yn mynd i ennill y gêm a gallai Bangor fod wedi ychwanegu dwy neu dair gôl arall cyn y diwedd.

Methodd Garside gyfle da wrth y postyn agosaf o gic gornel yr eilydd, Eddie Jebb a saethodd Neil Thomas fodfeddi yn unig dros y trawst o 20 llath.

Gwnaeth Aneurin Thomas yn iawn am ei gamgymeriad cynharach gyda thri arbediad da o ymdrechion Edwards, Thomas a Dave Morley yn chwarter awr olaf y gêm.

Yng nghanol hynny i gyd daeth un cyfle i Aberystwyth dynnu un yn ôl, gwaith gwych gan Thornton i lawr yr asgell chwith ac yna wrth y lluman cornel cyn chwarae’r bêl ar draws ceg y gôl i gyfeiriad Follows wrth y postyn pellaf ond y blaenwr ifanc yn methu a sgorio i gôl wag.

Roedd pedwar munud o’r naw deg ar ôl bryd hynny ac efallai y byddai gôl i’r tîm cartref wedi creu diweddglo dramatig ond nid felly y bu hi ac roedd hi’n ddigon cyfforddus i Fangor yn y diwedd.

Mae Bangor yn codi i’r ail safle yn y tabl diolch i’r fuddugoliaeth tra mae Aberystwyth yn aros yn y nawfed safle, yn un o dri thîm ar ddeg pwynt.

Gwilym Dwyfor Parry