Bydd holl gemau’r Bencampwriaeth, Cynghrair Un, a’r Ail Gynghrair yn cael eu chwarae a’u darlledu’n fyw ar y teledu neu ar-lein, wedi i Gynghrair Bêl-droed Lloegr gadarnhau y bydd pêl-droed yn ail ddechrau – ond heb y torfeydd.
Ond er y bwriad i ddechrau chwarae gemau eto, does dim dyddiad penodol ar gyfer ailgychwyn oherwydd ansicrwydd yn sgil yr argyfwng coronafeirws.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi tair wythnos bellach o lockdown fydd yn para tan o leiaf Mai 7.
Pan fydd y gemau yn cychwyn eto, ni fydd cefnogwyr yn cael mynd i’w gweld yn fyw yn y caeau pêl-droed.
I wneud yn iawn am hyn, mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr am wneud pob gêm ar draws y cynghreiriau ar gael i’w gwylio o adref – un ai ar deledu neu ar y We.
Cychwyn hyfforddi ar Fai 16?
Mae papur newydd The Independent wedi gweld llythyr gan Gynghrair Bêl-droed Lloegr i’w holl glybiau, sy’n awgrymu y dylai chwaraewyr ddychwelyd i sesiynau hyfforddi ar Fai 16, os bydd y lockdown yn cael ei lacio fis nesaf.
Ac er nad yw’r dyddiad hwnnw yn swyddogol, mae clybiau wedi cael cyfarwyddyd i baratoi i ailddechrau “ar fyr rybudd”.