Mae Peter Whittingham, un o fawrion Clwb Pêl-droed Caerdydd, yn yr ysbyty ar ôl cael anafiadau i’w ben mewn digwyddiad yn y Barri.
Roedd sïon ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 17) fod y cyn-bêldroediwr mewn cyflwr difrifol ond doedd dim rhagor o fanylion, ac mae’r newyddiadurwr Terry Phillips wedi ymddiheuro am fynd mor bell â chyhoeddi teyrnged yn dweud ei fod e wedi marw.
Heddiw, mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud iddyn nhw gael eu galw i leoliad trwyddedig yn y dref ar Fawrth 7 ar ôl i ddyn gwympo yno.
Cafodd y dyn 35 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth.
Does dim tystiolaeth o unrhyw drosedd ar hyn o bryd, ac mae’n ymddangos ei fod e wedi cwympo trwy ddamwain.
Mae’r byd pêl-droed wedi bod yn dymuno’n dda iddo fe ers i’r newyddion am ei gyflwr dorri.
Gyrfa
Dechreuodd Peter Whittingham ei yrfa gydag Aston Villa, gan chwarae mwy na 50 o weithiau ac ennill 17 o gapiau dros dîm dan 21 Lloegr.
Ymunodd e â Chaerdydd yn 2007, gan fynd yn ei flaen i chwarae 459 o weithiau a sgorio 98 o goliau, cyn ymuno â Blackburn yn 2017.
Yn ystod 13 o flynyddoedd gyda’r Adar Gleision, roedd e’n aelod o’r garfan a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 2008, rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn 2012 ac a enillodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2013.
Fe wnaeth e enw iddo’i hyn yn y crys glas am sgorio goliau o bell.
Cafodd ei enwi yn nhîm y degawd y Gynghrair Bêl-droed rhwng 2005 a 2015.
Ymddiheuriad
Mae Terry Phillips, y newyddiadurwr pêl-droed, wedi ymddiheuro am gyhoeddi erthygl ar wefan chwaraeon annibynnol www.dai-sport.com yn dweud bod Peter Whittingham wedi marw.
Mae’n dweud mai ei “gamgymeriad” e oedd y ffaith nad oedd e “wedi gwirio’r wybodaeth”.
“Rwy’n ymwybodol mai hwn yw’r camgymeriad mwyaf difrifol dw i wedi ei wneud yn fy holl ddegawdau yn y byd newyddiaduraeth,” meddai.
“Roedd Peter Whittingham yn bêl-droediwr arbennig iawn a’m greddf oedd talu teyrnged i’r ddawn honno, yn seiliedig ar wybodaeth a oedd, dw i’n hapus iawn o ddweud nawr, yn anghywir.”