Mae Jonathan Ford, prif weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, wedi ymateb i ohirio Ewro 2020 tan y flwyddyn nesaf.
Daeth y cyhoeddiad gan gorff UEFA wrth i’r byd chwaraeon ohirio gemau a chystadlaethau yn sgil y coronafeirws.
Roedd disgwyl i Gymru chwarae yn Rhufain a Baku, dwy o 12 o ddinasoedd cartre’r gystadleuaeth.
“Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn llwyr gefnogol o’r penderfyniadau sydd wedi cael ei gymryd gan y teulu pêl-droed Ewropeaidd heddiw, gan mai iechyd a diogelwch pawb yw’r prif ffactor i’w ystyried a bod hynny’n hollbwysig,” meddai Jonathan Ford.
“Rydym yn deall y bydd hyn yn hynod anghyfleus i’n cefnogwyr oedd yn edrych ymlaen yn eiddgar at wylio Cymru yn chwarae yn y twrnament yr haf hwn.
“Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n ddi-gynsail a byddwn yn gweithio’n galed i gynorthwyo ble a phryd y gallwn wneud hynny.”