Mae’n ymddangos bod Clwb Pêl-droed y Derwyddon Cefn wedi cael ei achub gan noddwyr newydd y clwb.
Roedd pryderon y gallai’r clwb fynd i’r wal yn sgil dyledion, ond mae’r rheiny wedi cael eu dileu, meddai datganiad.
Mae’r clwb yn dweud iddyn nhw gael anawsterau ariannol ers symud i gae newydd, ac nad yw’r bwrdd wedi gallu rhoi rhagor o arian i brynu chwaraewyr ers sawl blwyddyn.
Cafodd arian o gemau Cynghrair Europa ei ddefnyddio i ddileu’r dyledion a chostau eraill.
Ac maen nhw’n dweud nad oedd yr un o gyfarwyddwyr y clwb yn barod i fuddsoddi, gyda nifer o unigolion sy’n gweithio i’r clwb, gan gynnwys y cadeirydd ar y pryd, yn rhoi arian o’u pocedi eu hunain.
Dywed y cyn-gadeirydd fod cyfarwyddwyr ac aelodau staff yn anfodlon cynnal arolwg ariannol er mwyn datrys y sefyllfa gryn amser yn ôl, a bod hynny wedi digwydd droeon.