Bydd Ffederasiwn Pêl-droed yr Eidal yn gofyn i UEFA ohirio Ewro 2020 yfory (dydd Mawrth, Mawrth 17) yn sgil y pandemig coronafeirws.

Maen nhw hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r amser i alluogi cynghrair y wlad, Serie A i ddod i ben.

Bydd UEFA yn cynnal cyfarfod ddydd Mawrth i drafod a oes modd cynnal Ewro 2020.

Roedd y gystadleuaeth i fod i’w chynnal rhwng Mehefin 12 a Gorffennaf 12 mewn dinasoedd ar hyd a lled Ewrop.

Ddydd Sul, dywedodd Arlywydd Ffederasiwn Pêl-droed yr Eidal, Gabriele Gravina: “Byddwn yn argymell bod UEFA yn gohirio Ewro 2020.”

“Fe wnawn geisio dod a’r tymor Serie A i ben, oherwydd mae’n decach ar ôl yr holl fuddsoddiadau ac aberth mae’n clybiau wedi ei wneud.”

Cafodd Serie A ei ohirio ddydd Mawrth (Mawrth 10).

Bu 368 o farwolaethau newydd yn yr Eidal ddoe (dydd Sul, Mawrth 15), sy’n record newydd am farwolaethau mewn un diwrnod.