Mae Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn wedi derbyn gorchymyn gan yr Adran Gyllid a Thollau i’w dirwyn i ben.

Mae lle i gredu bod yna ddyledion sydd heb eu talu ers tymor 2018/19, ac nad oedd buddsoddwyr newydd yn ymwybodol ohonyn nhw.

Mae trafodaethau ar y gweill rhwng y cyfarwyddwyr a’r buddsoddwyr cyn gwrandawiad.

Mewn datganiad, dywed y clwb y byddan nhw’n gwneud cyhoeddiad pellach ddydd Mawrth (Mawrth 17).

Hanes y clwb

Cafodd y clwb ei sefydlu yng Nghefn Mawr ger Wrecsam yn 1872 gan Llewelyn Kenrick, un o sylfaenwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddarach.

Mae’r clwb wedi newid ei enw sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd.

Daeth yr enw presennol o uno clybiau Cefn Albion a’r Derwyddon yn 1992.