Mae holl weithgarwch y byd rygbi’r gynghrair wedi’i ohirio tan ddiwedd y mis yn sgil coronavirus.

Er nad yw’r tymor newydd yn dechrau tan fis nesaf, fydd dim gweithgareddau cymunedol nac elit am y tro.

Mae hynny’n cynnwys cyfarfodydd, ymweliadau â’r gymuned a sesiynau ymarfer.

Dywed corff Rygbi’r Gynghrair Cymru iddyn nhw wneud y penderfyniad “er diogelwch ein holl chwaraewyr, swyddogion, gwirfoddolwyr, rhieni a chefnogwyr”.