Mae Gareth Bale a charfan Real Madrid mewn cwarantîn yn Sbaen, lle mae holl gemau uwch gynghrair La Liga yno wedi eu gohirio “am o leiaf y ddwy rownd nesaf” o gemau.

Cafodd y chwaraewyr eu rhoi mewn cwarantîn ar ôl i un o chwaraewyr tîm pêl-fasged Real Madrid, brofi’n bositif am coronavirus.

Mae’r tîm pêl-droed a phêl-fasged yn rhannu cyfleusterau.

Roedd Real i fod i chwarae yn erbyn Manchester City yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth (Mawrth 10).

Mae’r clwb wedi cau’r adnoddau yn safle hyfforddi’r clwb.

“Mae’r penderfyniad wedi ei wneud i roi tîm cyntaf pêl-fasged a thîm cyntaf pêl-droed y clwb mewn cwarantîn, o gofio fod y ddau dîm yn rhannu adnoddau yn Ciudad Real Madrid,” meddai datganiad gan y clwb.

Ramsey yn ynysu’i hun am bythefnos

Bydd carfan gyfan clwb Juventus yn treulio pythefnos mewn cwarantîn, wedi i un o’i chwaraewyr, Daniele Rugani brofi’n bositif am coronavirus.

Mae’r Cymro Aaron Ramsey ymysg y chwaraewyr sydd mewn cwarantîn.

Dywed yr amddiffynnwr canol Daniele Rugani, ei fod yn “iawn” yn dilyn canlyniad y prawf.

Mae holl gemau chwaraeon Yr Eidal wedi eu gohirio tan Ebrill 3 yn dilyn ymlediad yr haint drwy’r wlad.

Roedd Gareth Bale ac Aaron Ramsey i fod i chwarae yn gemau cyfeillgar Cymru yn erbyn Awstria a’r Unol Daleithiau ar Mawrth 27 a 30.