Fydd Mike van der Hoorn, amddiffynnwr canol tîm pêl-droed Abertawe, ddim yn chwarae am weddill y tymor ar ôl cael llawdriniaeth ar ei benglin.

Fe fu’r anaf yn broblem iddo wrth gynhesu ar gyfer y gêm yn Brentford ddeufis yn ôl, ac fe ddychwelodd yn ystod y gêm yn erbyn Charlton ddechrau mis diwethaf.

Fe gafodd e sgan yn ddiweddar oedd yn dangos hyd a lled y broblem.

“Mae’n anffodus iddo fe,” meddai’r rheolwr Steve Cooper.

“Cafodd e sgan i wirio’r cyfan ddoe ond fe ddangosodd nad oedd y benglin wedi gwella fel yr oedden ni’n meddwl y byddai ac y dylai wneud.

“Mae e wedi cael llawdriniaeth ar unwaith, sydd fwy neu lai yn ei gadw fe allan am weddill y tymor.

“Mae’n bosib y bydd e’n barod ar gyfer gêm ola’r tymor ac o gofio mai Mike yw e, dyna sut mae e’n meddwl.

“Ond mae e wedi cael [anaf] anodd.”