Mae’r chwaraewr canol cae Emyr Huws yn dweud ei fod e’n “despret” i wisgo crys coch Cymru unwaith eto.
Dyw’r Cymro Cymraeg o Lanelli sy’n chwarae i glwb Ipswich ddim wedi chwarae i’r tîm cenedlaethol ers iddo gael ei anafu yn niwedd 2017.
Er yr holl anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n dweud ei fod e’n aros yn “bositif”.
“Fi wedi delio efo anafiadau trwy fy ngyrfa,” meddai mewn cyfweliad â rhaglen Sgorio ar S4C a gafodd ei ddarlledu neithiwr.
“I fod yn onest, fi wedi cael fy fair share.
“ Fi’n gwybod sut i ddelio gyda nhw, sut i gadw’n bositif.”
Ar ôl cael sawl llawdriniaeth yn 2017 a 2018, fe gafodd ei gyfnod o ymadfer ond aeth pethau o ddrwg i waeth.
“Nes i drial dod nôl, oedd bach o complications efo’r pen-glin yn chwyddo lan.
“Roedd e’n amser caled i fi ddod trwyddo i fod yn onest.”
Colli’r Ewros
Hyd yn oed mor bell yn ôl â 2016, roedd gan Emyr Huws gyfres o anafiadau, ac fe gollodd ei gyfle i gael ei ystyried yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer Ewro 2016.
“Ar y cyfnod yna, ro’n i’n delio gydag anaf ar fy mhigwrn,” meddai.
“Ro’n i wedi dechrau chwarae a bod yn rhan o’r gemau qualification Ewro 2016.
“Wedyn ges i’r anaf a daeth pobol eraill i mewn a gwneud yn dda, so o’n i wedi colli fy safle.”
Wedi troi cornel?
Ond ar ôl dychwelyd yn gryfach a chael dechrau da i’r tymor gydag Ipswich, a chael canmoliaeth am ei berfformiadau’n ddiweddar, mae Emyr Huws wedi troi ei olygon tuag at garfan Cymru Ryan Giggs.
“Fi’n desperate i chwarae i Gymru a rhoi’r crys coch nôl arno a bod yn rhan o’r garfan. Ma fe’n meddwl lot iawn i fi.
“Ond mae’n rhaid i mi ffocysu ar be sy’n digwydd efo Ipswich, a chwarae’n gyson a gobeithio fod pethau’n cwympo mewn i’w lle yn y dyfodol.
Yn amlwg, bydden i’n hoffi cael y call up, ac os bydda i’n cael y siawns, bydda i’n cymryd e gyda dwy law.
“Ond dwi ddim gyda unrhyw expectations.
“Mae’n rhaid i mi gael tymor solid ble dw i wedi chwarae gemau da yn gyson, i ddangos i bawb bod Emyr yn ôl, a bod yr anaf yn y past, old news, a bod hwn yn ddechreuad newydd.”
Fe fydd Cymru’n chwarae mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Awstria a’r Unol Daleithiau fis nesaf wrth baratoi ar gyfer Ewro 2020.
Brwydro i gadw Neco Williams
Yn y cyfamser, fe fydd Cymru’n gorfod brwydro â Lloegr i ddenu Neco Williams i’r garfan.
Ac yntau wedi’i eni yn Wrecsam, mae amddiffynnwr Lerpwl yn gymwys i chwarae dros y ddwy wlad, ond mae e eisoes wedi cynrychioli tîm dan 19 Cymru.
Mae e wedi chwarae pedair gwaith i Lerpwl y tymor hwn, ac roedd e’n aelod o’r garfan enillodd Cwpan y Byd Clybiau FIFA fis Rhagfyr.
Mae lle i gredu erbyn hyn bod Lloegr yn cadw llygad barcud ar ei ddatblygiad.
“Rydych chi bob amser yn poeni pan fo gwledydd mawr yn dod i mewn a bod yna wahanol ffactorau, a sŵn o’r tu allan,” meddai Ryan Giggs wrth y BBC.
“Ond mae Neco wedi dod trwy system Cymru. Dydy hynny ddim bob amser yn digwydd ond yn ddelfrydol, rydych chi eisiau iddo fe ddigwydd.
“Mae pobol fel [hyfforddwyr Cymru] Paul Bodin, Rob Edwards, Rob Page wedi mwynhau gweithio gyda fe ac mae e wrth ei bodd yn chwarae dros Gymru.
“Felly bydd rhaid i ni aros tan fis Mawrth.”