Huddersfield 0–3 Caerdydd
Cododd Caerdydd i’r wythfed safle yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref yn erbyn Huddersfield nos Fercher.
Roedd goliau Murphy, Vaulks a Paterson yn hen ddigon i’r ymwelwyr o dde Cymru yn Stadiwm John Smith’s.
Daeth y ddwy gôl gyntaf mewn cyfnod o bum munud yn yr hanner cyntaf; gorffennodd Josh Murphy yn gelfydd wedi pas dreiddgar Lee Tomlin cyn i Will Vaulks droi cic gornel Marlon Pack i gefn y rhwyd.
Daeth y drydedd ugain munud o ddiwedd y naw deg wedi i’r bêl adlamu’n garedig i Callum Paterson yn y cwrt cosbi.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi tîm Neil Harris dros Abertawe i’r wythfed safle yn y tabl ond maent yn parhau bedwar pwynt o’r safleoedd ail gyfle gan i Bristol City a Preston ennill hefyd.
.
Huddersfield
Tîm: Lossl, Simpson, Stearman, Schindler, Toffolo, Hogg (King 58’), O’Brien, Kachunga, Smith Rowe (Willock 75’), Bacuna, Mounie (Campbell 58’)
Cerdyn Melyn: Stearman 44’
.
Caerdydd
Tîm: Smithies, Richards, Morrison, Nelson, Bennett, Vaulks, Pack, Adomah (Bacuna 67’), Tomlin, Murphy (Hoilett 67’), Paterson (Ward 86’)
Goliau: Murphy 28’, Vaulks 33’
Cardiau Melyn: Nelson 18’ Vaulks 66’
.
Torf: 20,238