Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud na fydd e’n “cwyno na chrïo” am sefyllfa’r Elyrch ar hyn o bryd.
Fe fu’n ymateb i ganlyniad siomedig yn Stadiwm Liberty neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 11) wrth i’r Elyrch a QPR orffen yn gyfartal ddi-sgôr, gyda’r Elyrch yn methu â chael yr un ergyd ar y gôl.
Ac fe ddaeth cadarnhad ar ôl y gêm na fydd y chwaraewr canol cae George Byers yn chwarae am weddill y tymor ar ôl anafu ei ffêr.
Ychydig iawn o amser sydd gan yr Elyrch rhwng y gêm neithiwr a’r daith i Hull nos Wener, ac fe fydd Steve Cooper yn crafu ei ben wrth geisio datrys cyfnod siomedig o ganlyniadau, gyda dim ond dau bwynt wedi’u hennill yn eu pedair gêm ddiwethaf.
Ffitrwydd chwaraewyr
Yn ôl Steve Cooper, fe fydd George Byers yn dychwelyd yn gryfach ar ddiwedd cyfnod o dri mis o ymarfer, ond mae’n gadael y tîm yn brin o bresenoldeb chwaraewr corfforol ynghanol y cae.
“Fe wnaeth y newyddion am George Byers dorri’n hwyr neithiwr ac fe gadwon ni hynny’n dawel,” meddai.
“Mae’n destun siom iddo fe y bydd e allan am weddill y tymor. Dw i newydd ei weld e.
“Mae George yn gymeriad bywiog, ond mae e ychydig yn isel ac rydyn ni’n deall hynny. Mae’n drueni iddo fe ac i ni.
“Dw i wedi siarad tipyn â fe am beidio â chael ei ystyried yn chwaraewr ifanc ac am ddod yn chwaraewr mwy profiadol, ac ro’n i’n teimlo ei fod e’n derbyn hynny.
“Roedd e’n cymryd cyfrifoldeb ar y cae ac oddi arno, ond mae’r pethau hyn yn digwydd. Fe wnawn ni ei gefnogi fe a gobeithio y daw e’n ôl yn gryfach.”
Yn y cyfamser, mae Mike van der Hoorn, yr amddiffynnwr canol, yn ymarfer gyda’r garfan unwaith eto ond mae’n bosib na fydd e’n cael ei ystyried am o leiaf wythnos arall.
Llithro?
Er gwaetha’r sefyllfa ar hyn o bryd, mae Steve Cooper yn gwrthod derbyn bod y sefyllfa’n ddi-droi’n-ôl a bod gormod o bwysau ar ei dîm ifanc.
“Dw i’n meddwl y gallwn ni ennill unrhyw gêm ry’n ni’n chwarae ynddi.
“Does dim ots gyda fi fod gyda ni dîm ifanc. Ry’n ni eisiau edrych ymlaen a dyna fyddwn ni’n ei wneud.
“Os gall pawb weld pa mor galed ry’n ni’n gweithio, bydd hynny’n bwysig i bawb.
“Lle bynnag fyddwn ni yn y pen draw, nid diffyg ymdrech na diffyg ots fydd yn mynd â ni yno, a fy ngwaith i yw sicrhau bod y chwaraewyr yn parhau’n ffyddiog.”
Mae’n dweud ei bod yn anodd mesur a yw’r clwb yn symud yn ei flaen oherwydd bod y Bencampwriaeth yn gynghrair mor gystadleuol.
“Os ydyn ni driphwynt yn well na’r adeg yma y tymor diwethaf, grêt, ond mae’n anodd dweud a ydyn ni’n symud i’r cyfeiriad cywir oherwydd fod pethau i fyny ac i lawr yn y gynghrair hon.
“Ar ddiwedd y dydd, fe gewch chi’ch barnu ar sail eich pwyntiau a lle byddwch chi’n gorffen yn y gynghrair.
“Diwedd y tymor fydd yr amser i ateb y cwestiwn hwnnw.”
Newid chwaraewyr a thactegau
Er bod Steve Cooper yn cydnabod y bydd rhaid newid y chwaraewyr ar gyfer y daith i Hull, mae’n benderfynol na fydd y tactegau na’r ffordd o chwarae’n wahanol.
“Fydd ein bwriad ni ddim yn newid. Byddai’n hawdd iawn dechrau cicio peli hir ond nid dyna’n dull ni.
“Nid ni fydd y tîm hwnnw sy’n casglu ail beli a pheli sy’n cael eu bwrw i lawr. Gallwn ni fod yn ddigon da i sgorio llawer o goliau.
“Yn nhermau ein harddull, ein bwriad yw chwarae gyda’r bêl, chwarae ymlaen a bod yn ymosodol a chreadigol.
“Mae’n anodd iawn gwneud hynny gyda chwaraewyr ifainc ar y lefel yma yn y gynghrair hon ond os nad ydych chi’n credu’n sylfaenol ynddo fe, fyddwch chi ddim ar eich gorau, ond dw i yn credu ynddo fe.
“Wnawn ni ddim newid oherwydd mae’n golygu nad oedd ein cynllun gwreiddiol yn iawn, ond dw i’n credu ei fod e.
“Dydy’r ffaith fod naw chwaraewr wedi gadael yn ystod y ffenest drosglwyddo ddim yn gadael fawr o le i symud.
“Ond mae gyda ni dair gêm o fewn wythnos ac mae Joe [Rodon] newydd ddychwelyd yn syth i’r tîm ac mae’n bosib fod angen i ni edrych ar hynny.
“Fel staff technegol, fe fyddwn ni’n llunio cynllun ar gyfer Hull a dewis y tîm gorau posib i weithredu’r cynllun hwnnw.”