Fe fydd Academi Clwb Pêl-droed Abertawe’n cadw ei statws Categori Un – yr haen uchaf – am y tro, yn ôl y cadeirydd Trevor Birch.

Fe fu’n ymateb i bryderon a sïon am ddyfodol y cyfleuster sydd wedi gweld nifer o chwaraewyr a chyn-chwaraewyr ifainc y clwb yn dysgu eu crefft, gan gynnwys Joe Rodon, Connor Roberts, Daniel James a Ben Cabango.

Y dyfalu oedd y gallai un o safleoedd yr Academi – yn Fairwood neu yng Nglandŵr – gau, gyda’r cyfleusterau’n cael eu cyfyngu i un safle.

Mae’n dilyn adolygiad o’r cyfleusterau yn ddiweddar, ond fydd dim newid am y tro o leiaf er nad yw Trevor Birch yn ymrwymo i gynllun pendant y tu hwnt i’r tymor nesaf.

Dau safle

Mae’r clwb yn rhentu’r tir yn Fairwood gan Brifysgol Abertawe, ond yn berchen ar y safle yng Nglandŵr.

“Mae’r ddau yn gyfleusterau o safon yr Uwch Gynghrair ac felly, maen nhw’n ddrud iawn i’w rhedeg,” meddai’r cadeirydd mewn erthygl cyn y gêm yn erbyn Derby yn Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 8).

“Yn enwedig felly pan fod gyda ni wasanaethau’n dyblygu ar bob safle, megis tirmyn, cynnal a chadw’r cae, cyfleusterau cegin, biliau, cyfraddau busnes ac yn y blaen.

“Mae’r penderfyniad fyddwn ni’n ei wneud ynghylch statws categori ein hacademi, sydd ar hyn o bryd yn Gategori Un, fwy neu lai’n dibynnu ar sut rydyn ni’n penderfynu symud ymlaen mewn perthynas â’r caeau ymarfer.”

Mae’n dweud y byddai’n amhosib cadw’r statws Categori Un pe bai’r clwb yn penderfynu yn y pen draw fod rhaid cau un o’r safleoedd, gan y byddai’n costio oddeutu £3m net y flwyddyn.

Mae’n dweud ymhellach fod cadw’r statws Categori Un yn rhoi’r cyfle i’r clwb feddwl yn ofalus am y dyfodol.

“Ar ddiwedd y dydd, dw i’n credu bod ‘Academi’ yn ymwneud mwy ag athroniaeth nag adeiladau neu gyfleusterau.

“Felly cofiwch, pa bynnag statws categori fydd yr Academi yn y dyfodol, rydym yn dal wedi ymrwymo i ddatblygu ieuenctid a rhoi’r llwybr angenrheidiol i’r tîm cyntaf o dan brif hyfforddwr sy’n barod i roi cyfleoedd i’r to iau.”