Preston 1–1 Abertawe                                                                     

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Preston ac Abertawe wynebu ei gilydd yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Sinclair y tîm cartref ar y blaen yn Deepdale cyn i Brewster daro nôl i gipio pwynt i’r Elyrch.

Ychydig llai na hanner awr a oedd ar y cloc pan aeth Preston ar y blaen gyda gôl gan Scott Sinclair o bawb. Gôl nodweddiadol a oedd hi gan gyn chwaraewr Abertawe, yr asgellwr yn rhedeg at y cwrt cosbi cyn gorffen yn daclus gydag ergyd isel.

Pum munud yn unig a arhosodd hi felly cyn i Rhian Brewster unioni i’r Elyrch, y blaenwr sydd ar fenthyg o Lerpwl yn rhwydo wedi gwaith creu da Andre Ayew.

Cafodd Bersant Celina ac Ayew gyfleoedd i roi Abertawe ar y blaen wedi hynny ond bu’n rhaid i dîm Steve Cooper fodloni ar bwynt digon parchus yn y diwedd.

Dechreuodd Preston y diwrnod yn seithfed yn y tabl ac Abertawe yn wythfed, ac felly maent yn aros yn dilyn y canlyniad hwn.

.

Preston

Tîm: Rudd, Fisher, Bauer, Davies, Rafferty, Pearson, Browne, Sinclair, Johnson, Harrop (Nugent 65’), Barkhuizen (Maguire 85’)

Gôl: Sinclair 28’

Cerdyn Melyn: Bauer 45+4’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Naughton, Rodon, Guehi, Bidwell, Byers (Fulton 80’), Grimes, Ayew, Gallagher, Celina, Brewster (Cullen 88’)

Gôl: Brewster 33’

Cardiau Melyn: Bidwell 54’, Brewster 55’, Celina 71’

.

Torf: 12,502