Harrogate 0–2 Wrecsam                                                                  

Cododd Wrecsam yn glir o safleoedd disgyn Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth dda yn erbyn Harrogate ar Wetherby Road brynhawn Sadwrn.

Roedd un safle ar bymtheg yn gwahanu’r ddau dîm yn y tabl wrth i’r Dreigiau deithio i wynebu’r tîm sydd yn ail, ond y Cymry a aeth â hi diolch i goliau Jennings a Hooper.

Un munud ar ddeg a oedd ar y cloc pan grymanodd James Jennings gic rydd wych i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd am yr ail, JJ Hooper yn crymanu’r bêl i gefn y rhwyd wedi gwaith creu Davis Kellior-Dunn ar y dde.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Dean Keates i’r unfed safle ar bymtheg yn y tabl, bedwar pwynt yn glir o’r safleoedd disgyn.

.

Harrogate

Tîm: Belshaw, Hall, Smith, Bradley, Burrell, Falkingham, Emmett (Harratt 71’), Kerry, Stead, Muldoon (Kiernan 78’), Diamond

Cerdyn Melyn: Diamond 56’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Carrington, Summerfield, Lawlor, Young, Rutherford, Kennedy, Jarvis (Keillor-Dunn 69’), Hooper (Ponticelli 87’)

Goliau: Jennings 11’, Hoper 74’

Cerdyn Melyn: Jarvis 32’, Lainton 76’

.

Torf: 2,415