Leyton Orient 2–1 Casnewydd                                                      

Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Brisbane Road i wynebu Leyton Orient yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Wedi wyth deg munud di sgôr fe aeth y tîm cartref ar y blaen pan wyrodd Ryan Haynes y bêl i’w rwyd ei hun o beniad Marvin Ekpiteta.

Dyblodd Orient eu mantais pan blanodd Ruel Sotiriou bêl yng nghornel uchaf y rhwyd funud o ddiwedd y naw deg.

Cafwyd deg munud o amser a ganiateir am anafiadau wedi hynny ac er i hynny fod yn ddigon i Jamille Matt dynnu un yn ôl, rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Mike Flynn yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran.

.

Leyton Orient

Tîm: Sargeant, Marsh, Ekpiteta, Happe, Brophy, Clay, Cisse (Kyprianou 90+3’), Wright, Sotiriou (Harrold 90+3’), Wilkinson, Maguire-Drew (Angol 78’)

Goliau: Haynes [g.e.h.] 81’, Sotiriou 89’

Cerdyn Melyn: Sotiriou 87’

.

Casnewydd

Tîm: King, Baker (Amond 83’), O’Brien, Demetriou, Haynes, Bennett, Willmott, Sheehan, Dolan (Nurse 65’), Matt, Abrahams (Green 61’)

Gôl: Matt 90+5’

Cardiau Melyn: Green 76’, Demetriou 90+8’

.

Torf: 5,084