Fydd tîm pêl-droed Abertawe ddim yn talu sylw penodol i Joe Allen na Sam Clucas, dau o’u cyn-chwaraewyr, wrth iddyn nhw deithio i herio Stoke yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 25), yn ôl y rheolwr Steve Cooper.
Sgoriodd Sam Clucas yn y gêm gyfatebol yn Stadiwm Liberty ym mis Hydref, a sgoriodd Joe Allen yn erbyn yr Elyrch fis Medi 2018.
Mae gan ambell gyn-chwaraewr arall record dda i Stoke yn erbyn yr Elyrch, hefyd.
Mewn gêm rhwng y ddau dîm yn 2016, sgoriodd Wilfried Bony ddwy gôl i Stoke yn erbyn yr Elyrch wrth ddychwelyd i herio’i gyn-glwb.
Ond fe fydd pob chwaraewr yn cael ei drin yr un fath, yn ôl Steve Cooper.
“Ry’n ni’n cydnabod eu cryfderau, yr hyn ry’n ni’n teimlo yw eu gwendidau a chwaraewyr allweddol allai wneud gwahaniaeth iddyn nhw, ond hefyd y chwaraewyr allweddol i’w hecsbloetio, p’un a ydyn nhw wedi chwarae i ni neu beidio,” meddai wrth golwg360.
“Mae fwy na thebyg yn bwysicach iddyn nhw fel unigolion.
“Ond dw i ddim wedi gweithio gydag unrhyw un sy’n chwarae iddyn nhw o safbwynt Abertawe, felly dydy e ddim wedi croesi fy meddwl ryw lawer.”
Canmol Joe Allen
Serch hynny, mae Steve Cooper yn cydnabod pa mor dda yw chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen.
“Dw i ddim yn ei nabod e, ond fe yw’r cyn-chwaraewr amlwg sy’n uchel ei barch ymhlith cefnogwyr yr Elyrch a Chymru, ac mae hynny’n gwbl iawn.
“Mae e’n chwaraewr da iawn, fe wnes i ei wylio fe nos Lun [yn erbyn West Brom].
“Ond mae angen i ni fod yn barod ar gyfer eu holl chwaraewyr da.
“Gobeithio fydd e ddim [yn sgorio]. Oes gyda ni gyn-chwaraewr yn nhîm Stoke….?!
“Weithiau mae chwaraewyr yn cael eu hysgogi gan hynny, ond gall achosi ofn i chwaraewyr eraill, ac mae’n dibynnu’n llwyr ar yr unigolyn.
“Rhaid trin pob achos yn unigol.”
Barn cefnogwr
Un arall sy’n croesi ei bysedd na fydd Joe Allen a Sam Clucas yn cosbi’r Elyrch yw’r cefnogwr Cath Dyer.
Un sydd eisoes wedi gwneud hynny y tymor hwn yw Danny Graham, ymosodwr Blackburn.
“Mae lot o gemau pryd mae cyn-chwaraewyr yn chwarae yn ein herbyn ni ac yn sgorio goliau – Joe Allen, Sam Clucas, Danny Graham, mae shwd gymaint wedi’i wneud e.
“Mae rhaid i ni obeithio!
“Mae’r chwaraewyr sydd gyda ni’n ifainc ond rhaid iddyn nhw stopio ein cyn-chwaraewyr ni rhag sgorio yn ein herbyn ni.
“Mae Joe Allen, wrth gwrs, yn Gymro a byddai’n ein gwneud ni i gyd yn ddigalon.
“Bydd pawb yn gobeithio bod Joe Allen a Sam Clucas yn gallu cael eu cadw ma’s o’r gêm gan ein chwaraewyr ni.”
Joe Allen am ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair?
Mae Joe Allen yn cael ei gysylltu â Burnley a West Ham yn ystod y ffenest drosglwyddo bresennol ac yn ôl Cath Dyer, mae’n haeddu cael cyfle arall yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae’n chwarae da dros ben, yn chwarae i Gymru hefyd. Roedd e’n wych i ni yn Abertawe.
“Mae e’n gallu chwarae yn yr Uwch Gynghrair, mae e o safon eithriadol o dda, a hoffwn i ei weld e’n chwarae eto yn yr Uwch Gynghrair, a phob lwc iddo fe os caiff e siawns.”