Mae Owen Lane allan o garfan Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl anafu ei ben-glin.

Fe gafodd asgellwr y Gleision ei anafu wrth ymarfer gyda’r garfan genedlaethol.

Bydd y tîm yn herio’r Eidal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn nesaf (Chwefror 1), wrth iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch i gadw eu gafael ar dlws y Chwe Gwlad o dan eu prif hyfforddwr newydd Wayne Pivac.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, bydd Owen Lane yn cael rhagor o brofion yn ystod yr wythnos.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd am ba hyd fydd e allan o’r gêm.