Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod “rhaid ymddiried yn yr heddlu” yn dilyn ffrae am y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau i blismona’r gêm ddarbi yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Ionawr 12).
Ymhlith y rhai sy’n beirniadu’r defnydd o’r fath dechnoleg mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd a nifer o grwpiau ymgyrchu.
Cafodd y dechnoleg ei defnyddio gan Heddlu’r De ar gyfer y gêm gyfatebol yn Stadiwm Liberty fis Hydref y llynedd.
Ac maen nhw’n amddiffyn y defnydd ohoni, gan ddweud mai ei hunig bwrpas yw adnabod pobol sydd wedi cael gorchymyn gwahardd rhag mynd i gemau pêl-droed.
Mae disgwyl i gefnogwyr fynd i Stadiwm Dinas Caerdydd yn gwisgo amrywiaeth o benwisgoedd i guddio’u hwynebau, er bod yr heddlu’n dweud nad oes rheswm i ofni’r dechnoleg.
‘Mater i’r heddlu’
Wrth ymateb, mae Steve Cooper, rheolwr Abertawe, yn dweud mai “mater i’r heddlu” yw’r ffrae.
“Dw i’n credu bod fy safbwynt i’r un fath â’r hyn ddywedodd y clwb, sef mai mater i’r heddlu yw e, ac ymddiried yn yr heddlu i ymateb yn y ffordd orau bosib yn eu barn nhw,” meddai wrth golwg360.
“Felly byddwn i’n dweud union yr un peth â’r clwb, sef fod rhaid i ni gael ein gweld yn cefnogi hynny.”