Mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi cynnig dyfarnu gêm am ddim i helpu bachgen saith oed o Swydd Efrog sydd wedi colli’i goesau a’i freichiau o ganlyniad i lid yr ymennydd.

Roedd yn ymateb i gais am gefnogaeth – ac amcan bris am ddyfarnu gêm – ar wefan gymdeithasol Twitter pan wnaeth e’r cynnig.

Bydd y gêm elusennol yn cael ei chynnal yn Skipton yng ngogledd Swydd Efrog ar Chwefror 29.

“Faint fyddai’n ei gostio i’ch cael chi’n bresennol?” oedd y cais.

Yn eu tro, mae gwesty lleol wedi cynnig llety am ddim iddo yn gyfnewid am ei gefnogaeth.

Cefndir

Mae tudalen ar wefan GoFund Me yn egluro hanes Luke Mortimer.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel bachgen llawn bywyd, a “phob dydd yn ddiwrnod hapus iddo” cyn iddo gael ei daro’n wael.

Cafodd ei daro’n wael ar Ragfyr 13 y llynedd, a chael gwybod ei fod yn dioddef o lid yr ymennydd.

Cafodd ei ruthro i’r ysbyty am driniaeth ac er i feddygon lwyddo i achub ei fywyd, fe gollodd ei ddwylo a rhannau isaf ei freichiau a’i goesau.

“Mae e wedi profi ei fod e’n ymladdwr, ond fydd ei fywyd e na bywydau ei fam a’i dad fyth yr un fath eto,” meddai’r dudalen.

“Bydd Luke a’i deulu bellach yn wynebu nifer o heriau ac mae [y dudalen hon] ynghyd â nifer o ddigwyddiadau elusennol lleol, yn ffordd o helpu Luke a’i deulu.”