Y gêm ddarbi rhwng Abertawe a Chaerdydd, fel yr un heddiw, yw’r gêm mae’r chwaraewyr i gyd yn dyheu am gael chwarae ynddi, yn ôl Matt Grimes, capten yr Elyrch.

Bydd y ddau glwb Cymreig yn mynd ben-ben yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wrth i’r Elyrch geisio cyflawni’r dwbwl yn y gynghrair dros eu cymdogion am y tro cyntaf erioed.

“Dyma’r gemau rydych chi’n edrych ymlaen at chwarae ynddyn nhw fel chwaraewr pan gaiff y rhestr gemau ei chyhoeddi,” meddai.

“Dyma’r rhai rydych chi’n chwilio amdanyn nhw ac yn edrych ymlaen at chwarae ynddyn nhw drwy gydol y flwyddyn.

“Rydyn ni’n chwarae pob gêm er mwyn ennill, a dw i ddim yn meddwl y dylai hynny newid ar gyfer gêm ddarbi.

“Byddwn ni’n paratoi ar gyfer y gêm yn yr un modd ag unrhyw gêm arall, a cheisio gwneud ein gorau a gobeithio bydd hynny’n sicrhau triphwynt i ni.

“Ry’n ni’n llawn hyder ac yn perfformio’n dda ar hyn o bryd, a byddwn ni’n manteisio ar eu curo nhw gartref ar ddechrau’r tymor ac yn mynd â hynny gyda ni i mewn i’r gêm ddydd Sul.”

Torf danbaid Caerdydd

Fe fydd yr Elyrch yn chwarae o flaen torf o 30,000 a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gefnogwyr Caerdydd.

Ond mae hynny’n rhywbeth i edrych ymlaen ato, yn ôl y capten.

“Dw i’n credu bod rhaid i ni fwynhau’r ffaith ein bod ni’n mynd yno fel tîm oddi cartref, felly does dim disgwyliadau.

“Byddan nhw’n sicr eisiau ennill felly mae’n rhaid i ni fynd yno’n barod ac yn hyderus y gallwn ni gipio’r triphwynt a mwynhau’r pwysau, yn enwedig gan y dorf ar adegau.

“Ond mae’n rhaid i ni dyfu o gael y profiad, ac fe fydd yn dipyn o brawf i ni o ran ein cymeriad.

“Byddai buddugoliaeth yn wych ond rhaid i ni beidio â meddwl am hynny’n ormodol, a chanolbwyntio ar ein gêm a bod ar ein gorau ddydd Sul ac os ydyn ni ar ein gorau, ry’n ni’n gwybod y bydd hynny’n fwy na digon.

“Gêm ar ei phen ei hun yw’r gêm ddarbi ac os edrychwch chi ar berfformiadau diweddar, mae’n bwysig weithiau ond ddim mor bwysig ar adegau eraill.

“Gan ei bod hi’n gêm ddarbi, mae perfformiadau diweddar yn dueddol o fynd allan drwy’r ffenest ac mae’n dibynnu ar y diwrnod dan sylw.”

Matt Grimes y capten

Fe fydd Matt Grimes yn arwain tîm Abertawe yng ngêm fwya’i yrfa hyd yn hyn.

Symudodd y chwaraewr canol cae i Stadiwm Liberty o Gaerwysg yn 2015 ac ers hynny, cyfnod digon cymysg gafodd e, wrth fynd allan ar fenthyg bob tymor rhwng 2016 a 2018 – i Blackburn, Leeds a Northampton.

Ond ar ddechrau’r tymor hwn, cafodd ei benodi’n gapten gan y rheolwr Steve Cooper ar ôl sicrhau ei le yn y tîm o dan Graham Potter y tymor diwethaf.

“Mae wedi bod yn dipyn o daith,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi bod allan ar fenthyg sawl gwaith, ond dw i wedi tyfu cymaint dros y blynyddoedd diwethaf, a dw i eisiau parhau i dyfu gydag Abertawe.”

‘Dyheu am y gemau mawr’

Mae’n dweud ei fod e’n dyheu am fod yn gapten mewn gemau darbi fel yr un yn erbyn Caerdydd.

“Mae bod yn gapten ar dîm pêl-droed yn beth enfawr a dw i’n cymryd y profiadau hyn bob yn dipyn ac yn dysgu o bob gêm.

“Y gemau mawr fel hon dw i’n dyheu amdanyn nhw, a dyna dw i eisiau ei wneud bob wythnos.

“Dw i wedi datblygu fel cymeriad ac mae wedi bod yn wers fawr y tymor hwn.”

Ond mae’n mynnu nad yw cael ei benodi’n gapten wedi ei newid e fel chwaraewr.

“Dim o gwbl. Mae’n amlwg fod gyda fi fwy o gyfrifoldeb ac mae’n rhywbeth dw i wedi ei ddatblygu wrth i’r tymor fynd yn ei flaen, ac mae’n rhywbeth dw i’n hoff iawn ohono fe.

“Mae’n her ond yn her dw i’n edrych ymlaen at gael parhau i’w gwneud.”

Er ei fod e’n gapten cymharol ifanc, yn 24 oed, mae’n dweud bod ganddo fe gefnogaeth chwaraewyr mwy profiadol o’i gwmpas.

“Mae’r ystafell newid mor dda. Mae gyda ni Kyle Naughton, Wayne Routledge, Nathan Dyer, Mike van der Hoorn a chynifer o chwaraewyr profiadol eraill,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn edrych arna i ac yn meddwl, ‘Ti yw’r un sydd angen ein harwain ni’. Mae’r arweiniad yn dod gan bawb yn yr ystafell newid a dw i’n credu ein bod ni’n cymryd camau da ymlaen.”