Mae Steve Cooper yn dweud nad aeth yr un wythnos heibio ers iddo gael ei benodi’n rheolwr ar dîm pêl-droed Abertawe heb ei fod e’n clywed sôn am y gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd.
Bydd y ddau glwb yn herio’i gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yfory (dydd Sul, Ionawr 12), yr ail waith iddyn nhw fynd ben-ben ers iddo gael ei benodi cyn dechrau’r tymor hwn.
Ac fe allai’r Elyrch gyflawni’r dwbwl dros eu gelynion pennaf am y tro cyntaf erioed.
“Dw i’n mynd allan yn gynnar, ond dw i ddim yn gwisgo un o’r goleuadau yna!” meddai Steve Cooper am fyw yn y ddinas.
“Dw i wastad yn meddwl, ‘beth os yw rhywun yn fy ngweld i? Rydych chi’n cael eich stopio dipyn, yn sicr, ond mae’r cyfan yn bositif iawn.
“Mae ambell un wedi bod yn cwyno’n ddiweddar, ond dw i’n deall hynny. Does gyda fi ddim problem gyda hynny oherwydd mae’n dangos eu bod nhw’n poeni ac eisiau i ni wella.
“Fe wnes i ddweud o’r dechrau’n deg nad oes yna’r un wythnos yn mynd heibio heb fod y gêm ddarbi yn cael ei chrybwyll ac yn amlwg, wrth i chi fynd yn nes at y gêm, fwya’ o sôn sydd amdani, felly ry’n ni’n gwbl ymwybodol ohoni!”
Creu hanes
Yn ôl Steve Cooper, mae’r chwaraewyr yn gwbl ymwybodol o’r cyfle sydd ganddyn nhw i greu hanes, gan nad yw’r un o’r ddau dîm wedi ennill y ddwy gêm gynghrair yn erbyn ei gilydd yn yr un tymor o’r blaen.
“Mae’n dipyn o ysgogiad i ni, ond mae’n rhywbeth i’w gadw yng nghefn ein meddyliau fel ei fod yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar yr hyn mae’n ei gymryd i ni wneud hynny.
“Mae’n rhan bwysig o fy ngwaith a gwaith y bois i ddeall yr hyn mae modd ei reoli, sef eu perfformiad.
“Os ydyn nhw’n cael hynny’n iawn, bydd yr hyn mae modd ei gyflawni yn ystod y gêm yn gofalu amdano’i hun.”
Wynebau newydd
Lai na phythefnos ar ôl i’r ffenest drosglwyddo agor, mae’r Elyrch wedi denu’r ymosodwr Rhian Brewster o Lerpwl a Marc Guehi o Chelsea ar fenthyg, a’r ddau yn aelodau o dîm dan 17 Lloegr a gododd Gwpan y Byd o dan reolaeth Steve Cooper.
Ac mae ganddyn nhw’r rhinweddau addas i lwyddo yng nghrys Abertawe, meddai.
“Dw i’n credu bod ganddyn nhw’r feddylfryd i ennill, ac maen nhw am wneud eu gorau drostyn nhw eu hunain a’u cyd-chwaraewyr,” meddai.
“Maen nhw’n caru pêl-droed, yn gweithio’n galed bob dydd ac mae ganddyn nhw dalent. Mae’r ddau wedi cael gyrfaoedd ieuenctid anhygoel ac wedi torri drwodd i’r timau cyntaf.
“Dydyn nhw ddim wedi chwarae ryw lawer o gemau, ond maen nhw wedi bod yn ymarfer gyda phrif garfan eu clybiau drwy gydol y tymor.”
Ymuno â Steve Cooper eto
Yn ôl Steve Cooper, roedd y profiad o gydweithio â’r ddau yn y gorffennol yn rhan o’r penderfyniad i’w denu i Stadiwm Liberty.
“Dw i ddim eisiau dweud mai fi sy’n gyfrifol am y cyfan ond fel rhan o fy hen swydd, ro’n i’n nabod y chwaraewyr ifanc gorau yn Lloegr.
“Mae gyda fi fantais o ran gwybod am eu cymeriad a’u personoliaethau, a dw i’n credu y byddan nhw’n ffitio i mewn yn wych yn hynny o beth.
“Dw i’n credu y gallan nhw wneud gwahaniaeth wrth chwarae y naill ben a’r llall o’r cae, ond mae angen bod yn dda ar draws y cae i gyd.
“Os bydda i’n galw arnyn nhw, byddan nhw’n barod.
“Mae’n amlwg fod y berthynas rhyngon ni wedi bod yn un dda. Fel arall, fydden nhw ddim yma nawr.
“Ond mae’n bwysig cofio ein bod ni’n dechrau o’r dechrau yma yn Abertawe, a bod angen i ni ddatblygu, gwella a pherfformio fel tîm a chlwb, a’n bod ni i gyd yn chwarae rhan yn ein taith i le’r ydyn ni’n gobeithio mynd.”
Cyd-chwarae eto
Tra bod Rhian Brewster yn ffrindiau da â Yan Dhanda, chwaraewr canol cae Abertawe, mae e hefyd wedi chwarae ochr yn ochr â Marc Guehi yn nhimau ieuenctid Lloegr.
Yn ôl Steve Cooper, gallai’r ffaith eu bod nhw’n adnabod ei gilydd helpu’r triawd.
“Wnaiff e ddim drwg, mae hynny’n sicr. Dw i’n credu bod Yan wedi bod yn brysur ar Whatsapp, neu sut bynnag maen nhw’n cyfathrebu â’i gilydd! Os ydy hynny wedi helpu, diolch Yan!”
Wythnos yn ôl, roedd Rhian Brewster yn nhîm Lerpwl ar gyfer y gêm ddarbi yn erbyn Everton, ac fe allai chwarae rhan mewn gêm ddarbi arall ddydd Sul.
“Os yw e ynghlwm wrthi dros y penwythnos, bydd e’n sicr yn rhywbeth y bydd e’n edrych yn ôl arno fe,” meddai Steve Cooper.
“Mae’n eitha’ swreal, ond fe allai ddigwydd sbo.”