Bydd Rhian Brewster ar gael am weddill yRhian Brewster wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Abertawe ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
Mae seren ifanc Lerpwl yn ymuno unwaith eto â Steve Cooper, ei reolwr yn nhîm dan 17 Lloegr, wrth i’r tîm ennill Cwpan y Byd a’r ymosodwr gipio’r Esgid Aur ar ôl sgorio wyth gôl.
Daw Rhian Brewster i Stadiwm Liberty yn dilyn ymadawiad Sam Surridge, a gafodd ei alw’n ôl gan Bournemouth.
Mae wedi chwarae i Lerpwl dair gwaith y tymor hwn, ac roedd e’n aelod o’r garfan a gipiodd dlws Cynghrair y Pencampwyr ddiwedd y tymor diwethaf gan ennill lle ar y fainc ar gyfer y rownd derfynol yn erbyn Spurs.
Mae disgwyl iddo chwarae am y tro cyntaf yn y gêm ddarbi yng Nghaerdydd ddydd Sul (Ionawr 12).
Gyrfa
Dechreuodd Rhian Brewster ei yrfa gyda Chelsea cyn ymuno â Lerpwl yn 14 oed, ac fe gododd drwy rengoedd yr Academi.
Cafodd e le ar y fainc i Lerpwl yn 17 oed, gan lofnodi cytundeb newydd yn ystod haf 2018 a gwrthod symud i nifer o glybiau mawr Ewrop.
“Dw i wedi gweithio gyda fe ers amser hir,” meddai Rhian Brewster am ei berthynas â Steve Cooper.
“Yn ystod Cwpan y Byd, dw i’n cofio ’mod i wedi sgorio un gôl yn unig mewn pedair gêm.
“Ond fe wnaeth e barhau i ’newis i a dweud, ‘Rhian, cadw fynd. Dw i’n gwybod pa mor dda wyt ti, gwna’n siŵr dy fod yn gweithio’n galed ac fe ddaw’r goliau’.
“Wnaethon ni gyrraedd rownd yr wyth olaf a dechreuodd y goliau ddod yn gyflym ac wrth gwrs, fe wnes i orffen yn brif sgoriwr, ond fe wnaeth Coops ddal i gredu ynof fi a pharhau i ’newis i.
“Mae’n help mawr pan ydych chi’n adnabod y prif hyfforddwr ac wedi gweithio gyda fe o’r blaen.”
Ffrind
Mae gan Rhian Brewster ffrind agos yng ngharfan Abertawe hefyd, sef Yan Dhanda, un arall o chwaraewyr disglair Lerpwl pan oedden nhw’n torri’u cwys.
“Mae Yan yn foi gwych.
“Dw i’n ei adnabod e er pan ymunais i â Lerpwl gynta’ pan o’n i’n 14 oed.
“Fe wnaeth e ddweud wrtha i o hyd am ymuno ag Abertawe.
“Wnaethon ni chwarae gyda’n gilydd yn Lerpwl ac mae e’n chwaraewr arbennig i gael chwarae â fe.
“Gobeithio y gallwn ni chwarae gyda’n gilydd yma hefyd.”