Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn galw ar ei dîm i ddangos awch am ennill gemau ar ôl cael crasfa o 6-1 yn QPR ar Ddydd Calan.
Mae’r Adar Gleision yn croesawu Caerliwelydd (Carlisle) heddiw yng Nghwpan FA Lloegr.
“Mae’n gêm wych i Gaerliwelydd ddod i’n herio ni,” meddai’r rheolwr.
“Ac i ni, mae’n gyfle i ni symud yn ein blaenau, gyda pharch o’r mwyaf at dîm sydd ddwy adran oddi tanom ni.
“Bydd hi’n galed ac yn gystadleuol a bydda i’n edrych ar y cydbwysedd rhwng ceisio cadw’r llif a chysondeb yn y tîm a rhoi cyfleoedd i bobol sydd angen munudau ar y cae.
“Mae’n bosib y bydd lle i un neu ddau o’r bois ifainc ddod i mewn i’r criw ac i gael cyfle oherwydd maen nhw wedi gwneud yn dda dros y chwe mis diwethaf.
“Y neges glir yw ’mod i eisiau ennill y gêm hon a chyrraedd y bedwaredd rownd – wna i ddewis tîm addas er mwyn gwneud hynny.”
Myfyrio ar grasfa
“Dylen ni fod wedi gwneud yn well, yn unigol a gyda’n gilydd,” meddai Neil Harris am y golled yn QPR.
“Mae’n rhywbeth sydd heb ddigwydd yn y gêm yn erbyn QPR na thrwy gydol y tymor.
“Rhaid i ni wella, ac fe fyddwn ni’n gwella.
“All hynny ddim digwydd eto, ond fe allech chi osod y peth ar ei ben ei hun o ystyried ein bod ni’n wych dridiau ynghynt yn erbyn Sheffield Wednesday.
“Rydyn ni’n gwbl ymwybodol fod rhaid i ni wella mewn rhai llefydd ar y cae, ac mae angen i ni wneud yn well.
“Mae angen i ni dderbyn ei fod e wedi digwydd a pheidio â’i daflu i’r naill ochr.
“Dw i eisiau gweld awch a meddylfryd arbennig ymhlith y criw.”