Fe wnaeth tîm rygbi’r Scarlets grafu buddugoliaeth o 16-14 dros y Gleision yn y PRO14 ar Barc yr Arfau neithiwr (nos Wener, Ionawr 3).

Fe wnaeth y Gleision golli’r cyfle i sichrau hatric o fuddugoliaethau mewn gemau darbi dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ar ôl trechu’r Gweilch a’r Dreigiau.

Ciciodd Leigh Halfpenny dair cic gosb a throsiad ar ôl i Gareth Davies groesi am gais i’r Scarlets, a sgoriodd Owen Lane a Josh Adams gais yr un i’r Gleision wrth i Jarrod Evans a Jason Tovey gicio trosiad yr un.

Ond fe wnaeth cicio gwael gostio’r Gleision, wrth i Jarrod Evans fethu ag ymgais cyn i Leigh Halfpenny ymateb gyda chic lwyddiannus yn gynnar yn y gêm cyn ychwanegu ail gic gosb yn fuan wedyn.

Croesodd Owen Lane am ei gais ar ôl 23 munud ar ôl i Hallam Amos greu gofod ar yr ystlys dde ac fe wnaeth y sgoriwr gwrso’i gic ei hun cyn croesi’r llinell.

Ond daeth rhyng-gipiad oddi ar Jarrod Evans â chais i’r Scarlets, wrth i Gareth Davies redeg o’r hanner cyn i Leigh Halfpenny drosi ac ychwanegu cic gosb yn fuan wedyn i roi ei dîm ar y blaen o 16-7 ar yr hanner.

Er i Jason Tovey gymryd lle Jarrod Evans ar yr egwyl, yr un oedd ei hanes e wrth i’w gicio fynd ar chwâl o’i ymdrech cyntaf.

Ar ôl cyfnod tawel i’r ddau dîm yn gynnar yn yr ail hanner, unodd Rey Lee-Lo â Josh Adams, a redodd 30 metr am gais cyn i Jason Tovey drosi ond methu gyda chic gosb wedyn.