Mae Marnus Labuschagne, chwaraewr tramor Morgannwg, wedi torri sawl record i dîm criced Awstralia wrth daro canred dwbwl yn erbyn Seland Newydd.
Sgoriodd e 215 wrth i Awstralia gael eu bowlio allan am 454 yn eu batiad cyntaf ar yr ail ddiwrnod yn Sydney.
Fe wynebodd e 363 o belenni, gan daro 19 pedwar ac un chwech ar ôl treulio 516 o funudau wrth y llain.
Roedd e heb fod allan ar 130 ar ddechrau’r diwrnod, gan fynd yn ei flaen i gyrraedd ei sgôr gorau erioed mewn gêm brawf.
Doedd neb wedi sgorio mwy o rediadau mewn gemau prawf yn 2019 na Marnus Labuschagne, sydd wedi sgorio 837 o rediadau mewn pum gêm brawf yn ystod haf Awstralia, gan guro 837 Neil Harvey fwy na 60 o flynyddoedd yn ôl.
Adeiladodd e bartneriaethau o 43 gyda Travis Head a 79 gyda’r capten Tim Paine.
Daeth ei fatiad i ben pan gafodd ei ddal gan y troellwr coes Todd Astle oddi ar ei fowlio’i hun.
Fe fydd ei berfformiadau diweddar yn newyddion da i Forgannwg, a gyhoeddodd yn ddiweddar ei fod e wedi llofnodi cytundeb i’w gadw gyda’r sir am y ddau dymor nesaf.