Mae Connor Roberts yn dweud bod rhaid i dîm pêl-droed Abertawe ddechrau gemau’n well.
Daw sylwadau cefnwr de yr Elyrch a Chymru ar ôl i’w dîm golli o 3-1 yn Brentford ddoe (Dydd Gŵyl San Steffan).
Roedden nhw ar ei hôl hi o 2-0 o fewn 25 munud yn dilyn cyfnod o amddiffyn llac.
Sgoriodd Bryan Mbuemo y gôl gyntaf o gic gornel cyn i Ollie Watkins gael lle i rwydo ail gôl ei dîm.
Roedd perfformiad yr Elyrch yn well o lawer yn yr ail hanner wrth i Andre Ayew daro’n ôl gyda gôl ar ddechrau cyfnod llewyrchus o ryw ugain munud.
Ond sgoriodd Ollie Watkins ei ail gôl ar ôl 87 munud i sicrhau’r fuddugoliaeth.
‘Talu’r pris’
“Doedden ni ddim yn ddigon da yn yr hanner cyntaf,” meddai Connor Roberts.
“Er ein bod ni ond ar ei hôl hi o 2-0, roedd hi’n dal yn teimlo fel pe baen nhw’n rhy bell o’n blaenau ni.
“Fe wnaethon ni frwydro yn yr ail hanner, ond doedden ni ddim yn ddigon da ar y cyfan ac fe wnaethon ni dalu’r pris.
“Does dim diben chwarae’n dda am un hanner. Roedd yn rhy hwyr.
“Rhaid i ni ddechrau gemau yn y modd ry’n ni’n eu gorffen nhw, ac fe fyddwn ni’n rhoi cyfle i ni ein hunain.
“Ar hyn o bryd, ry’n ni’n dechrau gemau’n dda ac yn rhoi ein troed ar y bêl a’i phasio hi o gwmpas.
“Ond gyda’n gwrthwynebwyr yn ymosod am yr ail neu’r trydydd tro, fe wnaethon nhw sgorio a gwneud pethau’n fwy anodd o lawer i ni.”
Ffitrwydd Mike van der Hoorn
Yn y cyfamser, mae amheuon am ffitrwydd yr amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn cyn y gêm yn erbyn Barnsley yn Stadiwm Liberty ddydd Sul (Rhagfyr 29).
Tynnodd e’n ôl o’r gêm yn Brentford funudau cyn y gic gyntaf ar ôl anafu ei benglin.
Ac mae Declan John, y cefnwr chwith, yn dal i ddioddef o anaf i’w ffêr.