Mae’n ymuno â staff hyfforddi Gregor Townsend yn dilyn ymadawiad Matt Taylor, sy’n symud i Awstralia.
Mae Steve Tandy, a dreuliodd chwe blynedd yn hyfforddi’r Gweilch rhwng 2012 a 2018, yn ymuno o glwb y Waratahs yn Awstralia ar ôl treulio dau dymor yno.
Wnaeth yr Alban ddim ildio’r un pwynt yn erbyn Samoa a Rwsia yng Nghwpan y Byd eleni, ond mae lle i wella o hyd, yn ôl y Cymro a chwaraeodd i Gastell-nedd a’r Gweilch yn safle’r blaenasgellwr.
“Dw i’n gweld hyn fel cyfle enfawr a dw i wedi cyffroi’n fawr o gael taflu fy hun i mewn i rygbi yn yr Alban,” meddai.
“Mae bod yn rhan o Super Rugby ers dau dymor wedi fy ngalluogi i gael profiad gwerthfawr o wahanol fathau o rygbi.
“Mae amddiffyn yn rhan enfawr o’r gêm dw i mor angerddol amdani.
“Gyda fy mhrofiadau yn hemisffêr y gogledd a’r de, dw i’n teimlo y galla i ychwanegu at sefyllfa’r Alban yn y dyfodol.”
Mae Pieter de Villiers wedi’i benodi’n hyfforddwr sgrym yr Alban.
“Mae’n wych cael dod â rhywun â phrofiad Steve Tandy i mewn,” meddai’r prif hyfforddwr Gregor Townsend.
“Roedd e’n brif hyfforddwr llwyddiannus yn y PRO14 ac fe wnaeth e ychwanegu dimensiwn gwych arall at ei hyfforddi yn is-hyfforddwr yn y Super Rugby.”